Gyrfaoedd
Ble all gradd yn y Gymraeg fynd â chi?
"Mae graddio yn y Gymraeg wedi bod o fantais enfawr i mi. Mae’r radd wedi cyfoethogi fy iaith wrth imi gyflwyno ar BBC Radio Cymru ac rwy’n ddiolchgar iawn i'r Brifysgol am hynny. Yn ogystal â chyflwyno, rwy’n hyfforddi i fod yn athro Cymraeg mewn ysgol uwchradd ac rwy’n mwynhau’n fawr iawn. Byddwn yn argymell astudio gradd yn y Gymraeg i unrhyw un oherwydd mae rhywbeth at ddant pawb yn y cwrs.
Mwynheais astudio'r Mabinogi, hanes yr iaith, hanes Patagonia a mawrion ein llên megis Saunders Lewis, Kate Roberts ac D. J. Williams. Mae'n gwrs sy'n cyflwyno hanes ein gwlad ar hyd y canrifoedd ac ehangais fy nealltwriaeth o'n hiaith a'n diwylliant."
Glyn Wise, a raddiodd yn 2011
Yn ogystal â dysgu, mae cyn-fyfyrwyr wedi cael swyddi mewn sefydliadau megis Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Yr Urdd, Acen, Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Academi, Boomerang, Trosol, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru a Chanolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg.
Os hoffech gyngor ynghylch gyrfaoedd cysylltwch â Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol drwy bwyso ar y ddolen hon.
