Dr Simon Brooks
Gorolwg
Swydd:
Darlithydd
E-bost:
BrooksS2@caerdydd.ac.ukFfôn: +44(0)29 208 75304
Ffacs: +44(0)29 208 74604
Estyniad: 75304
Lleoliad: Adeilad y Dyniaethau
Prif ddiddordebau ymchwil
Mae fy ngwaith academaidd yn archwilio’r tensiynau rhwng ceidwadaeth a rhyddfrydiaeth, fel yr amlygir hwy yn llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a hanes syniadau cymunedau lleiafrifol.
Yn 2004, defnyddiais y safbwynt hwn yn fy nghyfrol, O Dan Lygaid y Gestapo, i drafod syniadaeth oleuedig yng Nghymru yn negawdau ola’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, a’i heffaith ar feirniadaeth a theori lenyddol Gymraeg.
Ychydig flynyddoedd ynghynt roeddwn wedi bod â rhan amlwg yn y drafodaeth gyhoeddus ar ddyfodol y cymunedau Cymraeg. Ond cododd hyn broblem yn ei sgîl, sef y gall ymdrechion lleiafrif i’w amddiffyn ei hun yn gymunedol rhag cael ei lyncu gan fwyafrif danseilio rhinweddau rhyddfrydol, megis bod yn agored i eraill.
Mewn ymdrech i ateb y broblem hon, mae llawer o’m gwaith ar hyn o bryd yn ymchwilio i amlddiwyllianedd a lleiafrifoedd ethnig yn y diwylliant Cymraeg. Mae llenyddiaeth y Gymraeg yn darparu’r deunydd crai ar gyfer yr astudiaethau hyn. Fy mwriad yn hyn oll yw llunio casgliadau theoretig yn awgrymu sut i gysoni dulliau ‘ceidwadol’ o amddiffyn cymunedau lleiafrifol gyda’r awch rhyddfrydol i barchu eraill.
Proffil Dysgu
BA yn y Gymraeg: Blwyddyn Un Iaith Gyntaf
- CY1743 Llenyddiaeth Gymraeg (cyfrannwr)
- CY1744 O Destun i Draethawd (cyfrannwr)
BA yn y Gymraeg: Blwyddyn Un Ail Iaith
- CY1584 Llenyddiaeth Gymraeg Fodern (cydlynydd)
BA yn y Gymraeg: Blynyddoedd 2 a 3/ 4
- CY3488 Cyflwyniad i Lenyddiaeth yr Ugeinfed Ganrif (cyfrannwr)
- CY2679 Gwleidyddiaeth a Phropaganda yn Llenyddiaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif (cydlynydd)
- CY3951 Rhyddiaith Ddiweddar (cydlynydd)
- CY2468 Llên y Ddinas (cyfrannwr)
MA yn y Gymraeg
- CYD033 Moderniaeth a’r Estheteg Gymreig; ac Ethnigrwydd, Hil a Hunaniaeth mewn Llenyddiaeth Gymraeg: 1918-1997 (cydlynydd)
Rhaglen i fyfyrwyr preswyl o Brifysgol Colgate
'Modern Welsh Literature' (Cydlynydd)
Cyhoeddiadau
Detholiad o gyhoeddiadau
'Karl Weissmann in Lleifior', Kelten am Rhein: Akten des dreizehnten Internationalen Keltologiekongresses: Zweiter Teil, 2010, 25-28.
Yr Hawl i Oroesi: Ysgrifau Gwleidyddol a Diwylliannol, Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 2009, 120 tt. ISBN 978-1-845272-35 -7
‘Tiger Bay a’r Diwylliant Cymraeg’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion 2008, 15, 2009, 198-216.
'The Rhetoric of Civic "Inclusivity" and the Welsh Language', Contemporary Wales, 22, 2009, 1-15.
‘Ystrydebau Ethnig Islwyn Ffowc Elis’ yn Gerwyn Wiliams (gol.), Ysgrifau Beirniadol XXVIII, Gwasg Gee, 2009, 95-120.
‘Arwyddocâd Ideolegol Dylanwad Sigmund Freud ar Saunders Lewis’, Llenyddiaeth mewn Theori, 3, 2008, 29-49.
‘Thema goddefgarwch yn nofelau Marion Eames’, Taliesin, 131, Haf 2007, 104-115.
‘“Yr Hil”: ydy’r canu caeth diweddar yn hiliol?’ yn Owen Thomas (gol.), Llenyddiaeth mewn Theori, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2006, 1-39.
‘The Idioms of Race: the “Racist Nationalist” in Wales as Bogeyman’ yn Robin Chapman (gol.), The Idiom of Dissent: protest and propaganda in Wales, Llandysul: Gwasg Gomer, 2006, 139-165.
O Dan Lygaid y Gestapo: Yr Oleuedigaeth Gymraeg a Theori Lenyddol yng Nghymru, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2004, xv + 201 tt. ISBN 0-7083-1921-1.
‘Miss America: America a Diwylliant Poblogaidd Cymraeg ei Iaith’ yn M. Wynn Thomas (gol.) Gweld Sêr: Cymru a Chanrif America, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2001, 211-227.
Simon Brooks (gol.), Llythyrau at Seimon Glyn (Tal-y-bont: Y Lolfa), 111 tt. ISBN 0-86243-596-X. Cyflwyniad: 7-14 (awdur unigol).
‘The Living Dead’, Agenda: Journal of the Institute of Welsh Affairs, Gwanwyn 2002, 10-12.
Simon Brooks (gol.), Barn, Abertawe: Cyhoeddiadau Barn Cyf., 1996-2006, 10 rhifyn y flwyddyn: 4 @ 48 pp, 4 @ 64 pp, 2 @ 96 pp. Prif erthygl ‘Annibyniaeth Barn’ ymhob rhifyn.
Ceidwadaeth a’r Gymru Newydd, Eisteddfod Genedlaethol Cymru: Darlith Cymru Heddiw, 1999, 21 tt.
‘Holi Wiliam Owen Roberts’ yn Gerwyn Wiliams (gol.), Rhyddid y Nofel, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1999, tt. 283-4.
Diwylliant Poblogaidd a’r Gymraeg, Tal-y-bont: Y Lolfa, 1998, 32 tt. ISBN 08624371-8
‘Llythyr ynghylch ôl-foderniaeth’, Taliesin, 93, Gwanwyn 1996, 95-100.
‘Ple’r Pla a throednodiadau eraill’, Taliesin, 85, Gwanwyn 1994, 38-67.
‘Bobi Jones: Interviewed by Simon Brooks’, Verse, 11, Gwanwyn 1994, 101-113.
Ymchwil
Prosiectau Ymchwil
Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ar lyfr ynghylch lle lleiafrifoedd ethnig yn llenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif. Ymchwilir i berthynas lleiafrifoedd ethnig gyda diwylliannau ieithoedd lleiafrifol ‘cynhenid’, o’i chymharu â’r berthynas sydd ganddynt gyda diwylliannau ieithoedd mwyafrifol. Hanes syniadau yng Nghymru yw fy niddordeb arall. Mewn prosiect ymchwil arall, yn rhannol o dan nawdd Ysgoloriaeth Saunders Lewis, defnyddiaf ddeunydd Almaeneg i lunio astudiaeth Ewropeaidd gymharol o hanes syniadau yn y mudiad cenedlaethol Cymreig yn hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Myfyrwyr ôl-raddedig
Mair Rees: Delweddau o Feichiogrwydd, Genedigaeth, Mamolaeth a Ffrwythlondeb yn nofelau Cymraeg yr 20fed ganrif – (ar y cyd â’r Athro Sioned Davies)
Elidir Jones: ‘Representations of Nationalism in Welsh Writing in English, 1925-1966’ – (ar y cyd â’r Dr Katie Gramich, Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth)
Antia Pereira: 'Visual Culture in Galicia and Wales: the Construction of National Cinema in Minority Language Communities' (ar y cyd â'r Dr Craig Patterson, Ysgol Astudiaethau Ewropeaidd)
