Walter Ariel Brooks
Gorolwg
Swydd:
Tiwtor iaith
E-bost:
BrooksWA@caerdydd.ac.ukFfôn: +44(0)29 208 74843
Ffacs: +44(0)29 208 74604
Estyniad: 77266
Lleoliad: Adeilad John Percival
Prif ddiddordebau ymchwil
Y Wladfa Gymreig yn yr Ariannin yw prif faes ymchwil Walter Ariel Brooks, Patagoniwr â gradd mewn cyfieithu Saesneg-Sbaeneg. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y sefyllfa ieithyddol gyfoes ym Mhatagonia ac mewn astudio’r gwahanol brosesau sosioeconomaidd, diwylliannol a gwleidyddol a effeithiodd ar y gymuned Gymreig yn yr Ariannin. Yn ogystal, mae’n ymddiddori mewn ieithoedd lleiafrifol a chymunedau diasporig yn gyffredinol, eu hunaniaeth a diwylliant a’u perthynas â’r wladwriaeth ganolog.
Proffil Dysgu
Mae’n cyfrannu at y modiwlau canlynol:
- CY1774 Welsh 1 (Cymraeg i Ddechreuwyr)
- CY1775 Welsh 2 (Cymraeg i Ddechreuwyr)
- Welsh Intermediate (ar gyfer myfyrwyr sydd yn astudio meddygaeth)
Yn ogystal, mae’n tiwtora trwy gyfrwng y Gymraeg (Ysgol Hanes ac Archaeoleg) ar y seminar canlynol:
- HS1105 Creu’r Byd Modern
Mae hefyd yn gweithio fel tiwtor iaith rhan-amser yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg
Cyhoeddiadau
Ymchwil
Prosiectau Ymchwil
Bu’n gweithio fel cynorthwyydd ymchwil gyda’r Athro Robert Owen Jones ar brosiect a ariannwyd gan The Leverhulme Trust yn astudio cymdeithaseg y Gymraeg yn y Wladfa yn ystod yr ugeinfed ganrif. Ar hyn o bryd mae’n gweithio’n rhan-amser fel cynorthwyydd ymchwil i’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymry- America, yn paratoi cronfa ddata o lenyddiaeth greadigol Gymraeg o’r Wladfa, dan oruchwyliaeth y Dr E. Wyn James, Ysgol y Gymraeg, a’r Dr Bill Jones, Ysgol Hanes ac Archaeoleg. Bydd ffrwyth y gwaith yn sail i draethawd PhD ar swyddogaeth llenyddiaeth greadigol yn y wasg gyfnodol Gymraeg yn Ariannin, 1865-1945.
