Yr Athro Sioned Davies
Gorolwg
Swydd:
Athro’r Gymraeg a Phennaeth yr Ysgol
E-bost:
DaviesSM@caerdydd.ac.ukFfôn: +44(0)29 208 75321
Ffacs: +44(0)29 208 74604
Estyniad: 75321
Lleoliad: Adeilad y Dyniaethau
Prif ddiddordebau ymchwil
Ei phrif ddiddordeb ymchwil yw traddodiad rhyddiaith yr Oesoedd Canol, ac yn arbennig chwedlau'r Mabinogion. Yn ei hymchwil y mae wedi canolbwyntio ar dechnegau naratif y cyfarwydd a'r berthynas gymhleth sydd i'w chanfod rhwng llythrennedd, llafaredd a chlywededd yn y cyfnod canol. Mae ei chyhoeddiadau’n cynnwys erthyglau arloesol yn y maes hwn, yn ogystal â chyfrolau megis Crefft y Cyfarwydd a Pedeir Keinc y Mabinogi (yn y gyfres Llên y Llenor). Yn 2007 cyhoeddodd Gwasg Prifysgol Rhydychen ei chyfieithiad newydd o chwedlau’r Mabinogion; bellach y mae fersiwn clawr meddal hefyd wedi ymddangos yn y gyfres World’s Classics.
Datblygiad o’r diddordeb mewn perfformio a chyfathrebu yw ei phrosiect cyfredol ar bregethwyr dramatig y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, sef Perfformio o’r Pulpud. Mae hefyd yn gweithio ar olygiad newydd o Breuddwyd Rhonabwy ar gyfer y Dublin Institute for Advanced Studies.
Proffil Dysgu
BA yn y Gymraeg: Blwyddyn Un Iaith Gyntaf
- CY1743 Llenyddiaeth Gymraeg (cyfrannwr)
- CY1744 O Destun i Draethawd (cyfrannwr)
- CY1745 Cymru a'i Diwylliant (cyfrannwr)
BA yn y Gymraeg: Yr Ail Flwyddyn a'r Flwyddyn Olaf
- CY3562 Pedeir Keinc y Mabinogi
- CY3404 Y Ferch yn yr Oesoedd Canol
- CY3447 Y Chwedl Arthuraidd
- CY2126 Blas ar Ymchwil
MA yn y Gymraeg
- CYD036 Crefft y Cyfarwydd
- CYD044 Arthur y Cymry
MA mewn Astudiaethau Gwerin
- CYD050 Traddodiad Naratif Cymru
MA mewn Astudiaethau Celtaidd Cynnar
- CYD733 Arthur y Cymry
Cyhoeddiadau
Detholiad o gyhoeddiadau
'Syw Ddynes Wiw Ddoniol' yn Yr Angen am Furiau: Pum Darlith Fforwm Hanes Cymru, gol., Tegid Roberts (Gwasg Carreg Gwalch, 2009), 43-63.
The Mabinogion. Cyf. (Rhydychen, World’s Classics, 2008 (clawr meddal)).
The Mabinogion. Cyf. (Rhydychen, 2007).
‘‘Far from the madding crowd’: A Montgomeryshire Lady in London’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (2007) 74-93.
‘ “He was the best teller of tales in the world”: performing medieval Welsh narrative’ yn Performing Medieval Narrative, goln Regalado, Vitz a Lawrence (Boydell and Brewer, 2005), 15-26.
‘A charming Guest: Translating the Mabinogion’, Studia Celtica (2004), 157-178.
‘Performing Culhwch ac Olwen’, yn Arthurian Literature XXI, gol. Ceridwen Lloyd-Morgan (Boydell and Brewer, 2004), 29-51.
‘O Gaer Llion i Benybenglog: Testun Llanstephan 58 o ‘Iarlles y Ffynnon’, yn Cyfoeth y Testun: Ysgrifau ar Lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, goln Iestyn Daniel, Marged Haycock, Dafydd Johnston, Jenny Rowland (Caerdydd, 2003), 326-48.
Canhwyll Marchogyon: Cyd-destunoli Peredur. Goln Sioned Davies a Peter Wynn Thomas (Caerdydd, 2000).
‘Perfformio o’r Pulpud: Rhagarweiniad i’r Maes’. Y Traethodydd (Hydref, 2000), 256-80.
The Horse in Celtic Culture: Medieval Welsh Perspectives. Goln Sioned Davies a Nerys Ann Jones (Caerdydd,1997).
Crefft y Cyfarwydd: Astudiaeth o Dechnegau Naratif yn y Mabinogion (Caerdydd, 1995).
The Four Branches of the Mabinogi (Llandysul, 1993).
Pedeir Keinc y Mabinogi. (Caernarfon, 1989).
Ymchwil
Prosiectau Ymchwil
- Perfformio o’r Pulpud: astudiaeth a bregethwyr dramatig y 19g a’r 20g.
- Y Mabinogion (gwefan)
Myfyrwyr ôl-raddedig
Myfyrwyr PhD Cyfredol
Llion Pryderi Roberts: Cofiannau Owen Thomas, Lerpwl (ar y cyd â’r Athro Brynley F Roberts)
Mair Rees: Rhyddiaith y tir diffaith. Delweddau o feichiogrwydd, mamolaeth, ffrwythlondeb a rhywioldeb yng ngwaith nofelwyr benywaidd Cymraeg, 1948-2008 (ar y cyd â’r Dr Simon Brooks)
