Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Ceri Elen

Gorolwg

Ceri Elen Swydd: Tiwtor Ysgrifennu Creadigol a Sgriptio E-bost: MorrisCE1@caerdydd.ac.uk
Ffôn: +44(0)29 208 74843
Ffacs: +44(0)29 208 74604
Estyniad: N/A
Lleoliad: Adeilad John Percival

Tiwtor ar y modiwlau Sgriptio, Ysgrifennu Creadigol a Drama yw Ceri Elen. Fe raddiodd gyda dosbarth cyntaf o Brifysgol Caerdydd mewn Cymraeg a Saesneg yn 2006, cyn dychwelyd i gwblhau cwrs MA mewn Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol y Gymraeg yn 2007. Yn ogystal â gweithio yn y Brifysgol, mae Ceri Elen yn gweithio fel awdur a dramodydd, ac yn gynhyrchydd ffilmiau i gwmni Boom Films. Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2006, a’r Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr 2007.

Perfformiadau a Chyoeddiadau

  • Heb ei Fai... – Drama gerdd a ysgrifennwyd ar y cyd ag Eilir Owen Griffiths.
  • Clymau – Drama gerdd a ysgrifennwyd ar y cyd ag Eilir Owen Griffiths.
  • Alys – BBC Radio Cymru; cynhyrchydd Aled Jones.
  • Mae Gen’ i Gariad – BBC Radio Cymru; cynhyrchydd Aled Jones.
  • Min Nos Fan Hyn – Sherman Cymru; cyfarwyddydd Arwel Gruffydd.
  • An Informer’s Duty (cyfieithiad Cymraeg Ceri Elen) – Theatr Genedlaethol Ieunectid Cymru; cyfarwyddydd Greg Cullen.
  • Café Cariad (cyfieithiad Cymraeg Ceri Elen) – Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru; cyfarwyddydd Greg Cullen.
  • Adolygydd nofelau i BBC Radio Cymru.
  • Awdur eitemau i Tu chwith a Taliesin.