Dr Dylan Foster Evans - MA (Cantab), PhD (Cymru)
Gorolwg
Swydd:
Uwch-ddarlithydd
E-bost:
FosterEvansD@caerdydd.ac.ukFfôn: +44(0)29 208 74951
Ffacs: +44(0)29 208 74604
Estyniad: 74951
Lleoliad: Adeilad y Dyniaethau
Prif ddiddordebau ymchwil
Prif faes ymchwil Dr Dylan Foster Evans yw llên yr Oesoedd Canol diweddar. Ymddiddora yn arbennig ym marddoniaeth y Gogynfeirdd, Dafydd ap Gwilym a'r Cywyddwyr hyd at gyfnod y Dadeni Dysg. Mae ei ddiddordebau'n rhychwantu beirniadaeth lenyddol a golygu thestunau, ac roedd yn un o dîm o ysgolheigion a gyfrannodd at y golygiad digidol newydd ac arloesol o waith Dafydd ap Gwilym: www.dafyddapgwilym.net.
Cyn dod i Gaerdydd, bu ar staff Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth lle roedd yn aelod o brosiect Beirdd yr Uchelwyr 1282-1526. Prif ffrwyth y cyfnod hwnnw yw dwy gyfrol o olygiadau: Gwaith Hywel Swrdwal a'i deulu (2000) a Gwaith Rhys Goch Eryri (2007). Mae hefyd wedi cyhoeddi erthyglau ar lên a diwylliant yr Oesoedd Canol mewn cyfnodolion a chyfresi megis Dwned, Cof Cenedl, Tu Chwith a Taliesin, yn ogystal â phapur ar y canu dychan Cymraeg. Mae ganddo hefyd ddiddordeb mewn theori lenyddol, ac mae wedi cyhoeddi ar ôl-drefedigaethedd ac ecofeirniadaeth. Maes arall y mae'n weithgar ynddo yw barddoniaeth gyfoes, a bu'n un o feirniaid y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a’r Cylch yn 2004.
Proffil Dysgu
BA yn y Gymraeg: Blwyddyn Un Iaith Gyntaf
- CY1742 Cyflwyniad i'r Gymraeg (cydlynydd)
- CY1743 Llenyddiaeth Gymraeg (cyfrannwr)
- CY1744 O Destun i Draethawd (cyfrannwr)
- CY1745 Cymru a'i Diwylliant (cyfrannwr)
BA yn y Gymraeg: Yr Ail Flwyddyn a'r Flwyddyn Olaf
- CY2255 Cymraeg Cyfoes(cydlynydd)
- CY3260 Cyflwyniad i Lenyddiaeth yr Oesoedd Canol (cydlynydd)
- CY2617 Y Canu Arwrol (cydlynydd)
- CY3421 Dafydd ap Gwilym (cydlynydd)
- CY3422 'Y Ganrif Fawr'(cydlynydd)
MA yn y Gymraeg
- CYD060 Hunaniaeth a gwleidyddiaeth yn llenyddiaeth Cymru, c.1300-c.1500
Cyhoeddiadau
Detholiad o gyhoeddiadau
‘Adnabod Adar’, Taliesin139, 2010, tt. 111-17.
‘ “Tŵr Dewr Gwncwerwr” ("A Brave Conqueror's Tower"): Welsh Poetic Responses to the Edwardian Castles', tt. 121-8, yn Diane M. Williams a John R. Kenyon (gol.), The Impact of the Edwardian Castles in Wales (Rhydychen, 2010).
Adolygiad ar: Helen Fulton, Welsh Prophecy and English Politics in the Late Middle Ages, Darlith Goffa Syr T. H. Parry-Williams (Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2008), Dwned14 (2009), tt. 93-6
Cyfraniad at www.dafyddapgwilym.net: golygiad o 35 cerdd a deunydd rhagymadroddol (Prosiect a ariennid gan yr AHRC: ‘A critical edition of the poetry of Dafydd ap Gwilym’, gol. cyffredinol Dafydd Johnston).
‘ “Talm o Wentoedd”: the Welsh language and its literature in Gwent, c. 1070–1530’, tt. 281–309, yn Ralph A. Griffiths (gol.), The Gwent County History, ii: The Age of the Marcher Lordships, c. 1070–1536 (Caerdydd, 2008).
(gol.), Gwaith Rhys Goch Eryri (Aberystwyth, 2007).
‘ “Cyngor y Biogen”: Ecoleg a Llenyddiaeth Gymraeg’, Llenyddiaeth Mewn Theori, 1(2006), 41–79.
‘ “Bardd arallwlad”: Dafydd ap Gwilym a theori ôl-drefedigaethol’, tt. 42–77, yn Owen Thomas (gol.), Llenyddiaeth Mewn Theori (Caerdydd, 2006).
‘Murder in the Marches: Poetry and the Legitimisation of Revenge in Fifteenth-century Wales’, Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium, 18 and 19 (2006), 42–72.
‘Gwlad y Gwn?: Cymru, y Canon a’r Dryll hyd at ddiwedd oes Elisabeth I’, tt. 3–32, yn Geraint H. Jenkins (gol.), Cof Cenedl, xvii (Llandysul, 2002).
(gol.), Gwaith Hywel Swrdwal a’i deulu (Aberystwyth, 2000).
‘Ail-lunio’r Cymry—y beirdd ar ôl methiant Glyndŵr’, Taliesin, 110 (2000), 43–57.
‘Rhoi eich troed ynddi: camau cyntaf ar drywydd ffasiwn yng Nghymru’r Oesoedd Canol’, Tu chwith, 14 (2000), 21–34.
‘ “Y carl a’i trawai o’r cudd”: ergyd y gwn ar y Cywyddwyr’, Dwned, 4 (1998), 75–105.
‘Y Bardd a’i Farf: y Traddodiad Barfol’, Dwned, 2 (1996), 11–29.
‘Goganwr am Gig Ynyd’: The Poet as Satirist in Medieval Wales (Aberystwyth, 1996).
(gol.) ‘Gwaith Llywelyn Ddu ab y Pastard’, tt. 169–212, yn Ann Parry Owen & Dylan Foster Evans (gol.), Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac Eraill (Aberystwyth, 1996).
Ymchwil
Prosiect Ymchwil
O Ionawr 2008, bydd Dylan Foster Evans yn rhan o brosiect cyffrous dan nawdd yr AHRC i lunio golygiad digidol ac astudiaeth o waith y bardd Guto'r Glyn..
Myfyrwyr ôl-raddedig
