Dr Angharad Wynne Naylor
Gorolwg
Swydd:
Darlithydd
E-bost:
NaylorAW@caerdydd.ac.ukFfôn: +44(0)29 208 75304
Ffacs: +44(0)29 208 74604
Estyniad: 75304
Lleoliad: Adeilad John Percival
Darlithydd sy'n gyfrifol am gydlynu darpariaeth ail iaith Ysgol y Gymraeg yw Dr Angharad Naylor. Ariennir y swydd hon drwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae Angharad yn arwain ar ddatblygu cyrsiau i fyfyrwyr ail iaith yr Ysgol ynghyd â dysgu ar fodiwlau iaith a llenyddiaeth myfyrwyr israddedig.
Dechreuodd Angharad ar ei chyfnod yn Ysgol y Gymraeg yn 2000 fel myfyrwraig. Ar ôl graddio, dilynodd gwrs MA yn yr Ysgol yn 2004 cyn cwblhau traethawd PhD ar Ddafydd ap Gwilym a damcaniaethau ôl-drefedigaethol yn 2009. Bu’n gweithio fel tiwtor ar y Cynllun Sabothol cyn cael ei phenodi’n Ddarlithydd.
