Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Dr E Wyn James

Gorolwg

Dr E Wyn James Swydd: Darllenydd E-bost: JamesEW@caerdydd.ac.uk
Ffôn: +44(0)29 208 75394
Ffacs: +44(0)29 208 74604
Estyniad: 75394
Lleoliad: Adeilad y Dyniaethau

Prif ddiddordebau ymchwil

Ar ôl cyfnod yn Swyddog Ymchwil yn Adran Addysg Prifysgol Aberystwyth ac yn Ddirprwy Warden Neuadd Pantycelyn, bu Dr E. Wyn James yn Gyfarwyddwr Gwasg Efengylaidd Cymru am ddwy flynedd ar bymtheg. Fe’i penodwyd yn Ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Gymraeg Ddiweddar yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn 1994, lle y mae bellach yn Ddarllenydd ac yn gyd-Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymry America.

Mae cyfraniad Dr James i’r bywyd diwylliannol ac ysgolheigaidd Cymraeg yn un eang. Mae’n Ysgrifennydd Cylch Llyfryddol Caerdydd, yn Olygydd Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru, yn Gadeirydd Adran Ethnoleg Cymdeithas Graddedigion Prifysgol Cymru, ac yn gyn-Gadeirydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a Chymdeithas Bob Owen. Y mae’n aelod o’r Comisiwn Baledi Rhyngwladol ac ef oedd Trefnydd y 38ain Gynhadledd Faledi Ryngwladol, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn 2008.

Mae ei ddidordebau ymchwil yn cynnwys:

  • yr emyn, y faled a’r gân werin
  • hunaniaeth, crefydd a diwylliant poblogaidd yn y cyfnod modern
  • y Cymry yn Ne a Gogledd America
  • merched a llên yn y cyfnod modern
  • llenyddiaeth mudiadau Methodistaidd ac efengylaidd
  • rhwydweithiau diwylliannol llenorion Cymraeg y cyfnod modern
  • beirniadaeth destunol a hanes argraffu a chyhoeddi
  • diwylliant Cymraeg de-ddwyrain Cymru
  • llenyddiaeth y mudiad gwrth-gaethwasiaeth a’r mudiad cenhadol

Proffil Dysgu

BA yn y Gymraeg: Blwyddyn Un Iaith Gyntaf
  • CY1743 Llenyddiaeth Gymraeg
BA yn y Gymraeg: Blynyddoedd 2 a 3/4
  • CY2318 Dadeni a Diwygiad 1550–1900
  • CY3488 Cyflwyniad i Lenyddiaeth yr Ugeinfed Ganrif
  • CY2349 I Fyd y Faled
  • CY3617 Merched a Llên yn y Cyfnod Modern
  • CY3835 Williams Pantycelyn a’r Emyn
  • CY2468 Llên y Ddinas
  • CY2466 Llên Cymru Ddiwydiannol
  • CY3465 Hanes y Ddrama
  • CY2678 Saunders Lewis
  • CY2126 Blas ar Ymchwil
MA yn y Gymraeg
  • CYD038 Canu Poblogaidd y Cymry 1660-1860
  • CYD043 Cymru ac America

Cyhoeddiadau

Detholiad o gyhoeddiadau

‘Michael D. Jones: Y Cyfnod Ffurfiannol Cynnar’, yn Michael D. Jones a’i Wladfa Gymreig, gol. E. Wyn James a Bill Jones (Llanrwst, 2009), 31-59. ISBN 978-1-84527-231-9

Glyndwr a Gobaith y Genedl: Agweddau ar y Portread o Owain Glyndwr yn Llenyddiaeth y Cyfnod Modern (Aberystwyth, 2007), 112 tud. ISBN. 9781845120641.

“Seren Wib Olau”: Gweledigaeth a Chenhadaeth Morgan John Rhys (1760-1804)’, Trafodion Cymdeithas Hanes y Bedyddwyr (2007), 5-37. ISSN 1462-9429.

‘ “Eneiniad Ann a John”: Ann Griffiths, John Hughes a Seiat Pontrobert’ [Darlith Goffa Syr T. H. Parry-Williams am 2003], Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 10 (2004), 111-32. ISSN 0959 3632.

‘Thomas William: Bardd ac Emynydd Bethesda’r Fro’, Llên Cymru, 27 (2004), 113-39. ISSN 0076-0188.

‘Emyn Goronwy Owen a Samuel Collet’, Y Traethodydd, 159 (2004), 20-37. ISSN 0969-8930.

‘Caethwasanaeth a’r Beirdd, 1790-1840’, Taliesin, 119 (2003), 37-60. ISSN 0049-2884.

‘Williams Pantycelyn a Gwawr y Mudiad Cenhadol’, yn Cof Cenedl XVII, gol. Geraint H. Jenkins (Llandysul, 2002), 65-101. ISBN 1 84323 069 0.

‘Ann Griffiths: O Lafar i Lyfr’, yn Chwileniwm: Technoleg a Llenyddiaeth, gol. Angharad Price (Caerdydd, 2002), 54-85. ISBN 0 7083 1723 5.

Dr E. Wyn James: Llyfryddiaeth Ddethol

Ymchwil

Prosiectau Ymchwil

Cyfarwyddwr (gyda Dr Bill Jones): Canolfan Uwchefrydiau Cymry America, Prifysgol Caerdydd

Golygydd (gyda’r Athro Peredur I. Lynch): Cronfa Baledi: Mynegai Cyfrifiadurol i Faledi Argraffedig y Ddeunawfed Ganrif (Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor/Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, 2006–)

Golygydd: Gwefan Baledi Cymru (Llyfrgell Prifysgol Caerdydd, 2006–)
Gwefan ar gyfer astudio'r faled yng Nghymru sy'n adnodd gwerthfawr ar gyfer ymchwil i bob agwedd ar fywyd a diwylliant Cymru yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ar bymtheg.

Golygydd: Gwefan Ann Griffiths Website (Llyfrgell Prifysgol Caerdydd, 2003–)

Golygydd: Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru (1978–) ISSN 0969-5109

Myfyrwyr ôl-raddedig

Sulien Morgan (PhD): Ymateb Cymry America i Genedlaetholdeb Plaid Cymru, 1925-1979

Walter Ariel Brooks (PhD): Swyddogaeth llenyddiaeth greadigol yn y wasg gyfnodol Gymraeg yn Ariannin, 1865-1945