Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Dr Diana Luft BA (Toronto), AM, PhD (Harvard)

Gorolwg

Diana Luft Swydd: Cydymaith Ymchwil E-bost: LuftD@caerdydd.ac.uk
Ffôn: +44(0)29 208 74843
Ffacs: +44(0)29 208 74604
Estyniad: 77266
Lleoliad: Adeilad John Percival

Prif ddiddordebau ymchwil

Fy mhrif ddiddordeb ymchwil yw rhyddiaith Gymraeg, yn arbennig rhyddiaith y cyfnod canol. O fewn y categori hwn, mae gennyf bum prif faes ymchwil:

  • Hynafiaetheg a derbyniad llenyddiaeth ganoloesol
  • Hanes meddyginiaeth a gwyddoniaeth
  • Llên Teithio Gymraeg
  • Cyfieithu a hanes cyfieithu
  • Dyniaethau Digidol

Proffil Dysgu

BA yn y Gymraeg: Blwyddyn Un Iaith Gyntaf

CY1745 Cymru a’i Diwylliant (cyfrannwr)
CY3260 Cyflwyniad i Lenyddiaeth yr Oesoedd Canol (cyfrannwr)

BA yn y Gymraeg: Blwyddyn Un Ail Iaith

CY1584 Llenyddiaeth Gymraeg Fodern (cyfrannwr)
CY1699 Cwrs Gloywi (cyfrannwr)

BA yn y Gymraeg: Yr Ail Flwyddyn a’r Flwyddyn Olaf

CY3540 Cymru ar Daith: Llên Teithio Gymraeg (cydlynydd)

 

Cyhoeddiadau

 

Ymchwil

Prosiectau Ymchwil

Texts out of Time: Medieval Welsh Prose in the Early Modern Period (2007-2010)
Astudiaeth o’r defnydd a wnaethpwyd o destunau rhyddiaith Gymraeg yr oesoedd canol gan gasglwyr, ysgolheigion, a llenorion y cyfnod modern cynnar yw’r prosiect hwn, ac fe’i hariannir gan yr Academi Brydeinig (http://www.britac.ac.uk/funding/awards/posts/pdf2007.cfm). Cynnyrch y prosiect hwn yw monograff (ar y gweill ar hyn o bryd) yn ymchwilio trosglwyddiad, derbyniad, a dehongliad y testunau hyn, gan gynnwys penodau yn trafod tarddiad y syniad o ‘rhyddiaith Gymraeg Canol’ a’i oblygiadau; ail-ddehongliad o’r Mabinogion yn y deunawfed ganrif fel ffynonellau hanesyddol yn lle chwedlau ffug; gwreiddiau chwedl Meddygon Myddfai yn y ddeunawfed ganrif a’i pherthynas â thraddodiad meddygol Cymru; ac adfywiad testunau hyfforddi crefydd yr Oesoedd Canol yn sgil chwyldroadau crefyddol y cyfnod modern cynnar.

Rhyddiaith Gymraeg 1350-1425 (2004-2007) a Rhyddiaith Gymraeg 1300-1350 (2010)
Gwefan sy’n cynnwys trawsgrifiadau chwiliadwy o 28 llawysgrif gan gynnwys rhyw 1.8 miliwn o eiriau yw’r wefan Rhyddiaith Gymraeg 1350-1425, cynnyrch prosiect a ariannwyd gan yr AHRC. Ceir yr adnodd, yn ogystal â manylion pellach ynghylch y prosiect, yma: http://www.rhyddiaithganoloesol.caerdydd.ac.uk/
Prosiect a ariannir gan Fwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru ar y cyd ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yw Rhyddiaith Gymraeg 1300-1350. Bydd y prosiect hwn yn ychwanegu testunau Cymraeg o’r cyfnod hwn at gronfa 1350-1425, hynny yw 27 llawysgrif gan gynnwys rhwng 800,000 a miliwn o eiriau.