Dr Siwan Rosser
Gorolwg
Swydd:
Darlithydd
E-bost:
RosserSM@caerdydd.ac.ukFfôn: +44(0)29 208 74843
Ffacs: +44(0)29 208 74604
Estyniad: 74843
Lleoliad: Adeilad John Percival
Prif ddiddordebau ymchwil
Mae fy ngwaith ymchwil yn ymwneud yn bennaf â llenyddiaeth boblogaidd, testunau ag iddynt apêl eang, ond a anwybyddid, i raddau helaeth, gan feirniadaeth lenyddol draddodiadol yng Nghymru. Bûm yn archwilio, er enghraifft, y modd y portreedir merched ym maledi’r ddeunawfed ganrif yn fy nghyfrol gyntaf:
Y Ferch ym Myd y Faled: Delweddau o'r Ferch ym Maledi'r Ddeunawfed Ganrif ac mewn ysgrifau eraill, canolbwyntiaf ar faledi a gyfansoddwyd gan ferched, baledi newyddiadurol Elis y Cowper, a dylanwad y ffin â Lloegr ar faledi’r ddeunawfed ganrif. Yn 2007 ymddangosodd fy ail gyfrol, sef golygiad o gerddi’r bardd gwlad Jonathan Hughes (1721-1805). Dyma’r astudiaeth gynhwysfawr gyntaf o waith y bardd sydd hefyd yn bwrw goleuni ar natur a swyddogaeth llenyddiaeth boblogaidd y cyfnod yn gyffredinol.
Yn ogystal â’m diddordeb yn y traddodiad baledol, rwyf hefyd yn ymddiddori mewn llên plant, ac yn archwilio delweddau benywaidd mewn ffuglen i blant, datblygiad delwedd y plentyn, a chysyniadau yn ymwneud â chenedligrwydd a hunaniaeth Gymreig mewn llenyddiaeth plant.
Proffil Dysgu
BA yn y Gymraeg: Blwyddyn Un Iaith Gyntaf
- CY1743 Llenyddiaeth Gymraeg
BA yn y Gymraeg: Blynyddoedd 2 a 3/4
- CY2349 I Fyd y Faled
- CY3633 Llenyddiaeth Plant
- CY2318 Dadeni a Diwygiad 1500-1900
- CY2345 Cyflwyniad i Astudiaethau Gwerin
- CY3617 Merched a Llên yn y Cyfnod Modern
- CY2126 Blas ar Ymchwil
- CY2255 Cymraeg Cyfoes
Cyfarwyddwr Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig
- Am fanylion ynghylch ein graddau ymchwil ewch i'r dudalen hon
Darlithoedd Gwadd
20 Ebrill 2009
Cynhadledd Barddoniaeth a Phlentyndod, Y Llyfrgell Brydeinig: 'Rhyming the Nation: Welsh Poetry for Children'
4 Awst 2004
Darlith Goffa Amy Parry-Williams, Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru: ‘Baledi'r Ffin’ (dylanwad y ffin â Lloegr ar faledi’r 18fed ganrif)
10 Medi 2005
Cyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth: ‘Y Ferch ym Myd y Faled’
6 Awst 2007
Darlith Goffa T. H. Parry-Williams, Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion: ‘Ynom mae y Clawdd? Croesi Ffiniau Llenyddol’ (dadansoddiad o farddoniaeth Clawdd Offa a’r ffin)
27 Tachwedd 2007
Cynhadledd Flynyddol Canolfan Uwchefrydiau Cymry America: ‘‘Albert Maywood; neu Fywyd ymysg yr Indiaid’: Brodorion America, Thomas Levi a Dechreuadau’r Stori Antur i Blant’
Cyhoeddiadau
Ymchwil
Ar hyn o bryd, rwyf yn olrhain datblygiad llenyddiaeth plant o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen. Dehonglir ymgais y crefyddwyr cynnar i addysgu ac arwain plant Oes Victoria drwy gyfrwng y cylchgronau enwadol ac ymdrechion gwladgarwyr ddiwedd y 19ganrif i ysbrydoli teyrngarwch y Cymry ifainc drwy gyfrwng cân a stori. Ymchwilir hefyd i dwf genres penodol yn ystod yr 20ganrif, megis y stori antur a llenyddiaeth ar gyfer yr arddegau.
Myfyrwyr ôl-raddedig
Myfyrwyr PhD Cyfredol
Awen Schiavone: Deuoliaeth yn y stori antur Gymraeg i blant (1900-1999) (ar y cyd â'r Athro Sioned Davies)
Lisa Sheppard: MPhil Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol
