Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Yr Athro Peter Wynn Thomas

Gorolwg

Swydd: Athro Emeritws E-bost: DD/B
Ffôn: DD/B
Ffacs: DD/B
Estyniad: DD/B
Lleoliad: DD/B

Prif ddiddordebau ymchwil

Awdurdod ar y Gymraeg o'i chyfnodau cynharaf hyd at y presennol. Ef yw awdur gramadeg safonol yr iaith, sef Gramadeg y Gymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1996). Enillodd y gwaith hwn iddo un o wobrau ymchwil pwysicaf y disgyblaethau Celtaidd, sef Gwobr Ymchwil Celtaidd Legonna, a weinyddir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Llyfrau eraill yw Cymraeg Graenus (1998) a Peredur: Golygiad Lleiafaidd (2000), astudiaeth o un o chwedlau’r Mabinogion, y dyfarnwyd iddi Wobr Vernam Hull. Y mae hefyd yn yn gyd-awdur Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg . . .: Cyflwyno'r Tafodieithoedd ac yn gyd-olygydd Canhwyll Marchogyon: Cyd-destunoli Peredur (2000) a Developing Minority Languages (2000). Cyhoeddodd nifer o bapurau ysgolheigaidd arloesol ar ddatblygiad yr iaith a'i thafodieithoedd, a bu’n gyn-olygydd ar Adran Iaith a Llên Studia Celtica: Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd. Anrhydeddwyd ef â’r wisg wen yn eisteddfod Meifod, 2003.

Ei brosiect ymchwil diweddaraf oedd Corff Electronig o Ryddiaith yr Oesoedd Canol. Noddwyd y gwaith hwn gan yr AHRC (Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau), a ddyfarnodd iddo dros £268,000 yn 2003. Gweler Rhyddiaith Gymraeg 1350-1425.

Cyhoeddiadau

Detholiad o gyhoeddiadau

2003. (GWNAETH): Newidyn Arddulliol yn y Cyfnod Canol; tt.252-80 yn Iestyn Daniel et al. (goln), Cyfoeth y Testun: Ysgrifau ar Lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

2003. Welshe dialecten en The Linguistic Geography of Wales. Kelten 18, 2-4.

2000. Peredur: Golygiad Lleiafol.

1998. Cymraeg Graenus (Caerdydd: Ysgol y Gymraeg).

1996. Gramadeg y Gymraeg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Web Publication

Peredur: Golygiad Lleiafol

Hawlfraint [4 KB]

Rhagymadrodd [45 KB]

1 Golygu rhyddiaith yr oesoedd canol [132 KB] 1

2 Iaith Peredur [287 KB] 21

3 Golygu Peredur [64 KB] 69

4 Peredur: Testun [188 KB] 75

4 Peredur: Nodiadau [152 KB] 75

Llyfryddiaeth [57 KB] 106

Arwyddion a Byrfoddau [36 KB] 111

Geirfa [242 KB] 112

Mynegai [102 KB] 158

Mynegair [1 MB]