Gofynion Derbyn Cyrsiau Meistr a Addysgir
- Yn arferol, disgwylir i’r ymgeiswyr feddu ar o leiaf radd 2:1 mewn pwnc perthnasol. Ystyrir hefyd geisiadau oddi wrth ymgeiswyr sydd heb radd ar sail profiad neu gymwysterau eraill.
- Fel arfer, bydd pob ymgeisydd yn cael ei wahodd i gyfweliad yn Ysgol y Gymraeg. Gellir cyfweld â myfyrwyr o dramor dros y ffôn neu'r we.
- Bydd rhaid i bob ymgeisydd sydd heb raddio yn y Gymraeg ac sy'n dymuno astudio drwy gyfrwng yr iaith fodloni’r Ysgol o safbwynt safon ei Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Sut i wneud cais
Gellir cysylltu ag Ysgol y Gymraeg am ffurflen gais, neu gellir clicio yma.
