Gofynion Derbyn Graddau Ymchwil
- Yn arferol, disgwylir i’r ymgeiswyr feddu ar radd dosbarth cyntaf neu 2:1 mewn pwnc perthnasol.
- Fel arfer, bydd pob ymgeisydd yn cael ei wahodd i gyfweliad yn Ysgol y Gymraeg. Gellir cyfweld â myfyrwyr tramor dros y ffôn neu'r we.
- Bydd rhaid i bob ymgeisydd sydd heb raddio yn y Gymraeg ac sy'n dymuno astudio drwy gyfrwng yr iaith fodloni’r Ysgol o safbwynt safon ei Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Sut i wneud cais
Cysylltwch ag Ysgol y Gymraeg yn y lle cyntaf er mwyn trafod eich cynllun ymchwil, yna gellir cofrestru ar-lein drwy glicio yma.
