Ôl-raddedig
Cyrsiau Meistr a Addysgir
Mae Ysgol y Gymraeg yn cynnig cynllun MA, yn llawn-amser ac yn rhan-amser, sef yr MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd. Mae’r Ysgol hefyd yn cyfrannu at MA mewn Astudiaethau Celtaidd Cynnar, ac MA mewn Astudiaethau Prydeinig Canoloesol. Trefn fodiwlar sydd i’r rhaglenni hyn. Cynigir nifer helaeth o fodiwlau dewisol sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr arbenigo mewn meysydd sy'n gweddu i'w diddordebau, gan gynnwys llwybr ysgrifennu creadigol ar yr MA yn y Gymraeg.
Graddau Ymchwil
Mae’r Ysgol yn croesawu myfyrwyr MPhil a PhD i weithio ar feysydd amrywiol. Mae diddordebau ac arbenigedd y staff yn cynnwys y Gymraeg, a'i llenyddiaeth, ac agweddau cymdeithasol a rhyngwladol yn ymwneud â lleiafrifoedd ieithyddol. Bellach, cynigir hefyd MPhil a PhD mewn ysgrifennu creadigol.
Derbyn
Gwybodaeth ynghylch sut i wneud cais ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig, ynghyd â manylion am y gofynion derbyn ac am yr ysgoloriaethau sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau gradd MA a addysgir a Graddau Ymchwil.
Gofynion Derbyn Cyrsiau a Addysgir
Gofynion Derbyn Graddau Ymchwil
Nawdd Ariannol ac Ysgoloriaethau
Profiad Gwaith a Gyrfaoedd
Manylion am y cyfleoedd profiad gwaith a gynigir i fyfyrwyr ôl-raddedig yn yr Ysgol - a gwybodaeth am y mathau o lwybrau gyrfaol a ddilynir ganddynt.
Myfyrwyr Rhyngwladol
Gwybodaeth i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n dymuno astudio yn Ysgol y Gymraeg.
