Cyfleusterau i Ôl-raddedigion
Canolfan y Graddedigion
Ar drydydd llawr Adeilad yr Undeb, Plas y Parc, mae Canolfan y Graddedigion yn gyfleuster pwrpasol ar gyfer y myfyrwyr ôl-raddedig sydd ar gyrsiau a addysgir a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, sydd wedi ymrestru ar hyn o bryd gyda Phrifysgol Caerdydd, a staff y Brifysgol. E-bost: Grad-Centre@caerdydd.ac.uk. Gwefan: http://www.caerdydd.ac.uk/gradc
Oriau Agor a Chyfleusterau
Mae Canolfan y Graddedigion ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 8.00 a.m. tan 12.00 canol nos, ac ar ddydd Sadwrn a dydd Sul o 12.00 canol dydd tan 12.00 canol nos. Mae’r Ganolfan ar agor drwy gydol y flwyddyn, er bod ychydig o gyfyngu ar yr oriau agor ddiwedd yr haf.
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys lle cymdeithasu’r Café Bar, sy’n cynnig awyrgylch cyfforddus, anffurfiol i gael seibiant ac ymlacio, gwylio’r teledu, neu gael coffi neu ginio. Gall gael ei logi hefyd ar gyfer digwyddiadau ôl-raddedig. Mae’r gwasanaeth bwyd a bar yn y Café Bar yn cael ei gynnal gan Undeb y Myfyrwyr ac mae ar agor yn ystod y tymor, o ddydd Llun i ddydd Gwener: 11.00 – 2.00 pm a 5.00 pm – 11.00 pm. Mae amrywiaeth o frechdanau, byrbrydau, diodydd poeth a diodydd alcoholig neu feddal oer ar gael. Yn nhymor yr hydref, mae’r Bar hefyd ar agor ar nos Sadwrn, o 5.00 pm tan 11.00 pm.
Mae ystafell gyfrifiaduron gyda 35 o gyfrifiaduron sydd wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith, ynghyd â gwasanaethau argraffu a sganio. Yn y pum ystafell gyfarfod, mae lle i rhwng 4 a 40 o bobl eistedd, a gellir llogi’r rhain am ddim ar gyfer prosiectau, cyflwyniadau, cynadleddau neu seminarau. Hefyd, gellir benthyg gliniaduron a thaflunwyr data i’w defnyddio yn yr ystafelloedd.
Mae’r Ystafell Ddarllen yn cynnig lle ar gyfer gwaith astudio tawel, unigol, i hyd at 33 o bobl. Hefyd, mae lolfa gydag wyth cyfrifiadur, soffas a byrddau gwaith ar gyfer astudiaethau grŵp. Mae peiriannau gwerthu bwyd yn y cyntedd sy’n gwerthu byrbrydau y tu hwnt i oriau’r caffi, ynghyd â phopty microdon at ddefnydd y myfyrwyr. Mae manylion y rhain oll i’w gweld ar dudalennau gwe Canolfan y Graddedigion.
Mwy o Wybodaeth
Mae gwefan Canolfan y Graddedigion yn cael ei diweddaru’n aml ac mae’r dudalen i Ôl-Raddedigion Newydd yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol a dolenni i wefannau defnyddiol eraill. Mae bwletin yn cael ei anfon drwy e-bost bob pythefnos i’r holl fyfyrwyr ôl-raddedig a chewch eich ychwanegu at y rhestr hon ar ôl i chi ymrestru. Os nad ydych yn cael y neges hon, anfonwch neges e-bost at y Ganolfan, drwy grad-centre@caerdydd.ac.uk.
