MA mewn Astudiaethau Prydeinig Canoloesol
Dysgir y radd hon ar y cyd gan dair ysgol ym Mhrifysgol Caerdydd, sef Ysgol y Gymraeg, Ysgol y Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, ac Ysgol Hanes ac Archaeoleg. Cewch fanylion llawn am y cynllun gan Ysgol Hanes ac Archaeoleg.
Mae'n galluogi myfyrwyr a chanddynt rywfaint o wybodaeth flaenorol a ddiddordeb cryf yn y Brydain Ganoloesol, i fanteisio ar y rhychwant eang o arbenigedd ar agweddau ar astudiaethau canoloesol sydd yng Nghaerdydd ac i astudio'n ôl-raddedig un ai o fewn un ddisgyblaeth neu nifer o bynciau rhyngddisgyblaethol.
