Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Myfyrwraig yn cyrraedd rownd derfynol ‘Cân i Gymru 2010'

22/02/2010

Megan Williams

Mae Megan Williams, myfyrwraig yn ei blwyddyn gyntaf yn Ysgol y Gymraeg, wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth Cân i Gymru eleni. Daw Megan yn wreiddiol o Hermon ger Crymych. Bydd ei chân yn cystadlu yn erbyn saith cân arall am wobr o £10,000 a’r teitl ‘Cân i Gymru 2010’.

1. Beth yw enw’r gân?
Gwên ar fy wyneb

2. Ai chi a gyfansoddodd y geiriau a’r alaw?
Ie

3. Beth yw testun y gân?
Mae’r gân yn sôn am sut y mae caneuon arbennig yn eich atgoffa o berson neu adeg arbennig yn eich bywyd, a'r ffordd mae cerddoriaeth yn medru creu teimladau cynnes am gyn-gariadon, teulu a ffrindiau.

4. Ers pryd yr ydych wedi bod yn cyfansoddi?
Rwyf wedi bod yn cyfansoddi ers rhyw flwyddyn bellach. Cyfansoddais y gân hon y llynedd ar gyfer fy mhortffolio Lefel A Cerddoriaeth. Hon oedd fy hoff gân o blith y rhai yn y portffolio felly penderfynais ei chyflwyno i’r gystadleuaeth ‘Cân i Gymru’.

5. Beth fyddech yn ei wneud â’r arian pe baech yn ennill?
Prynu piano newydd gan fod Dad wedi taflu’r hen un. Ond nid wyf am fentro meddwl am ennill ar hyn o bryd!

6. A ydych yn edrych ymlaen at y rownd derfynol?
Ydw, rwy’n edrych ymlaen ond rwy’n nerfus iawn! Nid wyf yn un dda am siarad ar y teledu!

7. Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol?
Rwyf am weld sut mae pethau’n mynd. Rwy’n mwynhau ysgrifennu a chyfansoddi a bod yn greadigol. Mae cystadleuaeth fel hon yn rhoi hygrededd i chi.

Bydd cân Megan yn cael ei pherfformio yn rownd derfynol cystadleuaeth ‘Cân i Gymru’ yn fyw o Venue, Llandudno nos Sul 28 Chwefror 2010. Bydd y gystadleuaeth yn ymddangos yn fyw ar S4C a bydd cyfle i’r gwylwyr bleidleisio dros eu hoff gân.