Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Buddsoddi yn y Cynllun Sabothol Cenedlaethol

17/06/2011

Mae Ysgol y Gymraeg yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn y Cynllun Sabothol Cenedlaethol ac yn edrych ymlaen yn fawr at barhau i gyfrannu at y prosiect.


Mae Leighton Andrews, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Addysg a Sgiliau, wedi cymeradwyo mwy na £6 miliwn dros gyfnod o dair blynedd ar gyfer cyflwyno’r Cynllun gyda'r nod o wella safonau addysgu a dysgu mewn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg.


Bu Ysgol y Gymraeg yn rhan o’r cynllun peilot a gychwynnodd yn 2005, gyda thîm o diwtoriaid iaith profiadol yn cynnal cyrsiau ieithyddol i athrawon uwchradd a chynradd. Dywedodd Lowri Davies, un o’r tiwtoriaid, “rwy’n gweithio ar y cynllun ers cychwyn y cyfnod peilot. Mae’n brofiad gwych cael gweithio gydag athrawon brwdfrydig a gweithgar; rwyf wedi cael fy synnu wrth weld pa mor ymroddedig ydynt i ddatblygu eu sgiliau ymhellach.”


Bydd yr arian yn  sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflwyno mewn rhagor o leoliadau ar draws Cymru a chydag amrywiaeth ehangach o gyrsiau a’r rheini ar sawl lefel. Dros y cyfnod, bydd 648 o ddarlithwyr, athrawon a hyfforddwyr yn cael manteisio ar gyfnod sabothol o’r gweithle er mwyn mireinio eu Cymraeg llafar ac ysgrifenedig, dysgu defnyddio terminoleg pwnc yn effeithiol yn ogystal â dysgu dulliau dysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn hyderus. Bydd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn cynnig darpariaeth ar lefel Uwch, Mynediad a Sylfaen. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.


Os hoffech wybodaeth gyffredinol am y Cynllun Sabothol Cenedlaethol, cliciwch ar y ddolen isod:
http://www.cynllunsabothol.org/cartref.html


Gwefan y Cynllun Sabothol Cenedlaethol

Darllenwch yr erthygl ar wefan y BBC

Darllenwch yr erthygl ar wefan Golwg 360