Y Mabinogion yn denu myfyrwyr
16/12/2011
Mae Luciana Cordo Russo yn dod o Buenos Aires yn yr Ariannin, ac er nad oes ganddi gysylltiad â Chymru, mae hi wedi dod i Gymru i astudio yn Ysgol y Gymraeg o dan nawdd Banco Santander.
Mae Luciana yn ymweld ag Ysgol y Gymraeg er mwyn gwella ei Chymraeg ac ymchwilio ar gyfer ei PhD mewn llenyddiaeth Gymraeg ganoloesol.
Wedi iddi raddio, aeth ati i astudio ar gyfer PhD ym Mhrifysgol Buenos Aires. Mae hi’n edrych ar addasiadau a chyfieithiadau o’r Ffrangeg i’r Gymraeg yn yr Oesoedd Canol.
Dywed Luciana “Sylweddolais yn gyflym bod angen imi ddod i Gaerdydd – er mwyn gwella fy Nghymraeg ac er mwyn gweithio gydag arbenigwyr a all gynnig cyngor ac arweiniad imi.”
Noddir ei hymweliad gan bartneriaeth arbennig a sefydlwyd rhwng y Brifysgol a Banco Santander, a hynny er mwyn gwella’r cysylltiadau rhwng Prifysgolion Prydain a gwledydd Hispanaidd. Mae ei hymweliad wedi ei galluogi i ddilyn Cwrs Uwch yn ein Canolfan Cymraeg i Oedolion yn ogystal â dilyn rhai modiwlau israddedig yr Ysgol , er enghraifft ‘Y Ferch yn yr Oesoedd Canol’.
Mae Luciana yn mwynhau cael y cyfle i weithio’n agos gydag academyddion yn yr Ysgol sy’n arbenigo yn yr Oesoedd Canol – Yr Athro Sioned Davies, Dr Dylan Foster Evans a Dr Juliette Wood. Dywed Luciana “mae’r safon y dysgu a’r ymchwil yn uchel iawn. Rwy’n ddiolchgar dros ben”. Bydd Luciana yn dychwelyd i Buenos Aires ddiwedd mis Ionawr ond cyn iddi adael bydd yn cael y cyfle i rannu a thrafod ei syniadau wrth iddi draddodi seminar ymchwil yn yr Ysgol.
