Mair Rees yn cwblhau PhD
24/05/2012
Llongyfarchiadau mawr i Mair Rees ar gwblhau ei thraethawd PhD yn llwyddiannus. Teitl y traethawd yw: ‘Y Llawes Goch a’r Faneg Wen: Delweddau o Feichiogrwydd, y Mislif a’r Corff Benywaidd Symbolaidd mewn Ffuglen Gymraeg gan Fenywod 1948-2008.’
Daw Mair o Fforest-fach, gorllewin Abertawe, a chafodd ei haddysg gynnar yn Ysgol Gyfun Ystalyfera. Enillodd radd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Reading cyn hyfforddi fel therapydd celf ym Mhrifysgol Hertfordshire. Bu’n gweithio yn y maes hwn gyda phobl ag anawsterau dysgu a phroblemau salwch meddwl am ryw 15 mlynedd.
Ar ôl cyflawni lefel A yn y Gymraeg mewn dosbarth nos, penderfynodd ddychwelyd at fyd addysg i astudio am radd yn y Gymraeg. Dyfarnwyd gradd dosbarth cyntaf iddi, ac enillodd ysgoloriaeth Ysgol y Gymraeg i astudio PhD yn yr Ysgol.
Erbyn hyn mae hi’n berchen ar siop lyfrau ac anrhegion Cymraeg, Dalen Newydd, yng Nghaerllion ac yn gadeirydd Menter Iaith Casnewydd. Mae hi’n awyddus i barhau â’i gwaith ymchwil ac mae trafodaethau eisoes wedi bod ynghylch y syniad o gyhoeddi’r traethawd yn gyfrol.
Mair Rees yn agor ei siop gyda'r bardd a'r awdures Mererid Hopwood
