Y myfyrwyr yn ennill y Stomp am y pedwerydd tro yn y olynol
30/04/2012
Cynhaliwyd y Stomp flynyddol rhwng myfyrwyr a staff Ysgol y Gymraeg nos Wener 27 Ebrill yn y Bunk House gyda’r stompfeistri Llŷr Gwyn Lewis a Gruffudd Owen.
Bu’r cystadlu’n frwd gyda’r stompfeistri’n canmol safon uchel y ddau dîm. Cafwyd canmoliaeth arbennig i limrigau cochion yr Athro Sioned Davies! Y fyfyrwraig, Non Jones a gipiodd y fanana fuddugol am y limrig orau a Llion Pryderi Roberts o dîm y staff a enillodd stôl y stomp am gerdd orau’r noson ym marn y stompfeistri. Ond y gynulleidfa oedd biau’r gair olaf, a’r myfyrwyr oedd y tîm buddugol ar ddiwedd y noson.
Llongyfarchiadau mawr iddynt. Tybed a allant gynnal y safon y flwyddyn nesaf...
