Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Meithrin cysylltiadau â Chanada a Chomisiynydd y Gymraeg

27/04/2012

Yr wythnos hon croesawodd Ysgol y Gymraeg criw o ysgolheigion o Ganada. Fel rhan o’u hymweliad cynhaliwyd seminar ymchwil ar y cyd rhwng yr Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio sy’n rhan o Ysgol y Gymraeg a’r ARUC/CURA, Canada i drafod polisi iaith Gymraeg cyfoes. Wedi’r seminar cynhaliwyd y cyfarfod ffurfiol cyntaf gyda Chomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws. Diben yr ymweliad oedd codi arfer da o Gymru ar gyfer ddatblygu polisi iaith Canada a chryfhau'r elfen gymunedol ymysg Francophonie Canada.  Bu un o'r grŵp, Martin Normand, yn ymweld â ni yn nhymor yr Hydref 2011 fel rhan o’i ymchwil PhD ym Mhrifysgol Montreal sy’n cymharu Ontario, New Brunswick a Chymru o safbwynt polisi iaith.

Ysgolheigion ARUC

Ysgolheigion ARUC gyda Meri Huws