Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Newyddion

Newyddion Diweddaraf yr Ysgol:

meicroffon Y myfyrwyr yn ennill y Stomp am y pedwerydd tro yn y olynol

30/04/2012

Cynhaliwyd y Stomp flynyddol rhwng myfyrwyr a staff Ysgol y Gymraeg nos Wener 27 Ebrill yn y Bunk House gyda’r stompfeistri Llŷr Gwyn Lewis a Gruffudd Owen.



Sioned Davies Yr Athro Sioned Davies yn gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru

27/04/2012

Llongyfarchiadau i'r Athro Sioned Davies ar gael ei hethol i fod yn gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.



baner canada Meithrin cysylltiadau â Chanada a Chomisiynydd y Gymraeg

27/04/2012

Yr wythnos hon croesawodd Ysgol y Gymraeg criw o ysgolheigion o Ganada. Fel rhan o’u hymweliad cynhaliwyd seminar ymchwil ar y cyd rhwng yr Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio...



John Caulfield Blogwyr a defnyddwyr Twitter Gwyddeleg a’u lle ar y we

23/03/2012

Ym mis Ebrill bydd John Caulfield, myfyriwr PhD yn Ysgol y Gymraeg, yn cyflwyno papur mewn seminar ar y thema ‘Ieithoedd a Chyfryngau Cymdeithasol’ a gynhelir ar y cyd gan...



Simon Brooks Talu teyrnged i ‘Tynged yr Iaith’

13/02/2012

Er mwyn nodi’r hanner can mlynedd ers i Saunders Lewis draddodi  ei ddarlith 'Tynged yr Iaith', bydd Radio Cymru yn darlledu 5 darlith fer gan unigolion amlwg yng Nghymru.



llyfrBook Drum yn hyrwyddo The Mabinogion

13/02/2012

Mae cyfrol yr Athro Sioned Davies The Mabinogion wedi cyrraedd y wefan Book Drum.Gwefan sy’n cynnwys gwybodaeth am lyfrau yw Book Drum. Nod y wefan yw creu cronfa amlgyfrwng...



cyrchydd Gwefan y Cynllun Sabothol ar ei newydd wedd

13/02/2012

Mae gwefan newydd cwrs uwch y Cynllun Sabothol ar gyfer Hyfforddiant Iaith Gymraeg bellach yn fyw.



Llion Pryderi Roberts Llion Pryderi Roberts yn cwblhau PhD

18/01/2012

Llongyfarchiadau mawr i Llion Pryderi Roberts ar gwblhau ei draethawd PhD yn llwyddiannus.



Luciana Cordo Russo Y Mabinogion yn denu myfyrwyr

16/12/2011

Mae Luciana Cordo Russo yn dod o Buenos Aires yn yr Ariannin, ac er nad oes ganddi gysylltiad â Chymru, mae hi wedi dod i Gymru i astudio yn Ysgol y Gymraeg o dan nawdd Banco Santander.



punnoedd Ysgoloriaethau AHRC

21/11/2011

Mae'n bleser gan Ysgol y Gymraeg wahodd ceisiadau ar gyfer Ysgoloriaethau PhD 2012 mewn Astudiaethau Celtaidd a ariennir gan yr AHRC.



John Caulfield Y Wyddeleg yng Nghaerdydd

24/10/2011

Mae un o fyfyrwyr ôl-raddedig Ysgol y Gymraeg wedi ymddangos ar raglen deledu Wyddeleg yn ddiweddar. Mae John Caulfield, sy’n dod yn wreiddiol o Wexford yn Iwerddon...



Cynllun Sabothol Lansio’r Cynllun Sabothol

21/10/2011

Nos Iau 13 Hydref 2011 lansiodd Ysgol y Gymraeg ei chyfraniad i’r Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg yn Neuadd Aberdâr, Corbett Road, lle bu’r Gweinidog dros Addysg, Leighton Andrews...



Rhiannon Marks Aelod newydd o staff

28/09/2011

Mae Ysgol y Gymraeg yn croesawu aelod newydd o staff. Mae Dr Rhiannon Marks wedi’i phenodi’n diwtor yn yr Ysgol.



punnoedd Gwobr Goffa G.J. Williams

01/09/2011

Llongyfarchiadau mawr i Jessica Rumble o'r flwyddyn gyntaf ac Owain Lewis o’r drydedd flwyddyn ar ennill Gwobr Goffa G.J. Williams 2011.