Moeseg Ymchwil
Canllawiau a Chyngor
Ar y tudalen hwn ceir gwybodaeth a dogfennau sy’n ymwneud â chanllawiau a chyngor yr Ysgol ynghylch cymeradwyo gwaith ymchwil.
Gellir lawrlwytho Datganiad Ysgol y Gymraeg ar Fonitro Moeseg Ymchwil, yn ogystal â’r Cylch Gorchwyl a’r ffurflenni perthnasol ar gyfer cymeradwyo prosiectau staff a myfyrwyr. Isod ceir hefyd ragor o wybodaeth gefndirol am Bwyllgor Moeseg Ymchwil Prifysgol Caerdydd.
Gwybodaeth Gefndirol
Sefydlwyd Pwyllgor Moeseg Ymchwil Prifysgol Caerdydd yn is-bwyllgor o’r Pwyllgor Ymchwil er mwyn:
- datblygu a chynnal ymwybyddiaeth ar draws y Brifysgol o faterion moesegol sy’n codi yn sgil ymchwil anghlinigol sy’n cynnwys cyfranwyr dynol, deunydd dynol neu ddata dynol;
- cynhyrchu canllawiau ar gyfer cynnal ymchwil o’r fath, a sicrhau bod gan bob Ysgol yn y Brifysgol naill ai ganllawiau perthnasol ar gyfer cynnal ymchwil o’r fath neu ddatganiad ysgrifenedig yn egluro pam y mae canllawiau o’r fath yn amherthnasol iddi;
- ystyried gwaith ymchwil a wneir yn yr Ysgolion, rhoi cyngor yn ei gylch, a gwrando ar unrhyw apêl ynghylch unrhyw benderfyniad a wneir gan yr Ysgolion. Mewn ambell achos eithriadol, gall Pwyllgor Moeseg Ymchwil y Brifysgol ei hun wneud penderfyniad ynghylch gwaith ymchwil.
Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i waith ymchwil trylwyr a gwrthrychol, ac mae’n cefnogi academyddion sydd am ymchwilio mewn awyrgylch sy’n sicrhau rhyddidd academaidd. Mae’r Brifysgol hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cyfrinachedd fel un o’r egwyddorion mwyaf llywodraethol wrth ymgymryd â gwaith ymchwil sy’n ymdrin â chyfranwyr dynol, deunydd dynol neu ddata dynol. Mae Fframwaith Rheoli Ymchwil Prifysgol Caerdydd (Datganiad o Egwyddor) yn datgan bod gan bob unigolyn sy’n ymgymryd ag ymchwil:
"... gyfrifoldeb a dyletswydd i’r gymdeithas, i’w alwedigaeth, i’r Brifysgol ac i’r rhai hynny sy’n noddi’r ymchwil, i dderbyn cyfrifoldeb llawn dros broffesiynoldeb ac uniondeb pob agwedd o’r gwaith ymchwil a’r cyhoeddiadau sy’n deillio ohono, a thros weithgarwch staff neu fyfyrwyr sy’n gweithio o dan eu cyfarwyddyd."
Gwedd allweddol ar y datganiad hwn yw ymwybyddiaeth foesol a chôd ymarfer priodol. Dylai ymchwilwyr edrych at y Brifysgol a Phwyllgor Moeseg Ymchwil yr Ysgol am gefnogaeth a chymorth er mwyn cynnal safonau moesegol teilwng wrth ymwneud ag ymchwil ar draws y sefydliad. Tra bo canllawiau moesegol yn hollbwysig, maent ond yn rhan o ddarlun llawer ehangach. Swyddogaeth Pwyllgor Moeseg Ymchwil y Brifysgol yw hybu ymwybyddiaeth foesegol ehangach ar draws y Brifysgol. Byddai’n ddymunol, felly, i ganllawiau’r Ysgol adlewyrchu’r nod hwn, sef meithrin diwylliant ymysg staff a myfyrwyr yr Ysgol sy’n sensitif i ystyriaethau moesegol os yw’r ymchwil yn ymwneud â phobl.
Os na ddilynir polisi a chanllawiau’r Brifysgol ar gyfer moeseg ymchwil, gall hynny arwain at gamau disgyblu. Os daw Pwyllgor Moeseg Ymchwil yr Ysgol neu’r Brifysgol i wybod bod gwaith ymchwil yn cael ei gynnal nad yw’n dilyn y drefn a amlinellir yn y canllawiau, yna dylid trafod y mater yn anffurfiol gyda’r ymchwilwyr, a chymryd unrhyw gamau adfer perthnasol yn sgil hynny. Fodd bynnag, os yw’n briodol, gall y naill bwyllgor neu’r llall gyfeirio’r mater at Ddirprwy Is-Ganghellor Ymchwil y Brifysgol, i’w archwilio ymhellach.
Iechyd a Diogelwch
Gellir darllen a lawrlwytho Polisi Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol Prifysgol Caerdydd trwy ddilyn y ddolen isod:
Uned yr Amgylchedd, Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol
