Prosiect ar Ddatganoli yng Nghymru a Llydaw
Grant: Ariannwyd gan grant rhif L219252007 gan yr ESRC
Ymchwilwyr: Colin H. Williams (Ysgol y Gymraeg), Alistair Cole, John Loughlin, Barry Jones
Dadansoddwyd natur datganoli yn Ffrainc ac ym Mhrydain rhwng 1999 a 2003, ac fe archwiliwyd polisïau addysg, hyfforddiant ac iaith yng Nghymru ac yn Llydaw. Cynhaliwyd dros 200 o gyfweliadau gyda gwleidyddion, gwneuthurwyr polisi, asiantaethau ac arbenigwyr yn y meysydd hyn. Hefyd dadansoddwyd agweddau 1008 o drigolion Cymru a 1007 o drigolion Llydaw er mwyn mesur eu barn ar effaith datganoli ar ddatblygiad polisi ac ar natur y berthynas rhwng Cymru a’r DU a Llydaw a Ffrainc. Cyhoeddwyd nifer o erthyglau yn deillio o’r canlyniadau yn ogystal â'r llyfr Language and Governance gan Wasg Prifysgol Cymru, ac un arall Devolution in Wales and Brittany gan Wasg Prifysgol Rhydychen. Mae’r prosiect yn cynnig elfen ddamcaniaethol ac ymarferol i Gynllunio Ieithyddol a Pholisi Iaith mewn cyd-destun rhyngwladol.
