Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Trydanu’r Testun

Fforwm Trydanu’r Testun

Ffurfiwyd Fforwm Trydanu’r Testun ar ddiwedd 2004 gan Diana Luft, Llion Pryderi Roberts a D. Mark Smith gyda’r bwriad o hyrwyddo trafodaeth ar agweddau ar destunau electronig a rhannu ymarfer da.

Cynhaliwyd y fforwm cyntaf ar ddydd Gwener 8 Ebrill 2005. Cafwyd cyflwyniadau gan aelodau o rai prosiectau ymchwil yn y prifysgolion ynghyd â thrafodaethau ar waith digideiddio a chyhoeddi.

Arweiniodd hyn at drafodaeth ddifyr ar ddiwedd y dydd a oedd yn cwmpasu ystod eang o’r meysydd hyn megis pwysigrwydd sefydlu terminoleg gyffredin, ac ehangu gwybodaeth am y gwahanol brosiectau.

Yn sgîl hyn penderfynwyd cynnal ail fforwm yn 2006.

Ceir crynodebau o’r papurau a drafodwyd yn y fforwm cyntaf isod, yn ogystal â’r amserlen ar gyfer Fforwm 2005 a 2006.

Trefnwyr

Diana Luft

Llion Pryderi Roberts

Adnoddau Cysylltiedig

Dolenni Prifysgol Caerdydd