Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Crynodeb o'r papurau (2005)

Fforwm Trydanu'r Testun, 8 Ebrill 2005

1. Corff Electronig o Ryddiaith Cymraeg Canol

Peter Wynn Thomas, Diana Luft a D. Mark Smith (Cardiff University)

'Corff Electronig o Ryddiaith Cymraeg Canol' yw enw prosiect ymchwil newydd a chyffrous yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd a ariennir gan yr AHRC (Mehefin 2004 - Mai 2007). Nod y prosiect yw trawsgrifio testunau rhyddiaith sy'n perthyn i tua 1350-1450 a'u cyflwyno i'r byd ar gryno-ddisg archwiliadwy. Mae'r corff hwn yn cynnwys y cyfreithiau, gweithiau hanesyddol, crefyddol, meddygol a gramadegol, a chwedlau wedi eu cyfieithu o'r Lladin a'r Ffrangeg, ac, wrth gwrs, chwedlau'r Mabinogion (gan gynnwys dau o drysorau pennaf y genedl, sef Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Coch Hergest). Mae'r prosiect hwn o dan oruchwyliaeth yr Athro Peter Wynn Thomas a draddododd y papur hwn a gyflwynwyd ar y cyd ag ymchwilwyr y prosiect, sef y Dr D. Mark Smith a'r Dr Diana Luft.

Edrychwyd ar y ddwy brif gangen i olygu testunau rhyddiaith Gymraeg yr Oesoedd Canol, sef y golygiad beirniadol a'r golygiad diplomatig. Ar gynrychioli holl fanylion y llawysgrif y mae'r olaf, a dangoswyd enghreifftiau o waith penigamp J. Gwenogvryn Evans a gyhoeddodd olygiadau o lawysgrifau megis Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Du Caerfyrddin rhwng 1887 a 1911. A ninnau ar drothwy dathlu canmlwyddiant cyhoeddi golygiad Gwenogvryn o Fabinogion y Llyfr Gwyn, y mae'n briodol ailystyried ein hagwedd at y darllenydd-olygydd. Roedd cyfyngiadau ar wasg argraffu cyfnod Gwenogvryn, ond mae cyraeddiadau technoleg yr oes bresennol yn ein caniatau i atgynhyrchu fersiwn llawer iawn agosach at y gwreiddiol - trwy ddefnyddio XML - eXtensible Mark-up Language. Defnyddir XML yn y prosiect cyfredol i'n galluogi i gynrychioli nid yn unig graffemau'r testunau ond hefyd eu lliw, eu maint cymharol a'u safle, yn ogystal â bylchau yn y testun, staenio, toriadau i'r dail, mannau anodd eu darllen, cyfnewidiadau, ac ychwanegiadau mewn dwylo gwahanol. Er mwyn gwneud hyn rydym yn tagio set helaeth o nodweddion gweledol y testunau â thagiau XML, a cheir tair lefel wahanol o dagiau, sef tagiau strwythurol, tagiau ar lefel y llinell a thagiau ar lefel y gair. Dangoswyd enghreifftiau o rai tagiau er mwyn esbonio sut y maent yn cael eu defnyddio, a dangoswyd hefyd ddarn o lawysgrif Peniarth 47i fel enghraifft o gynnyrch terfynol y prosiect. Mae'r prosiect presennol yn dilyn yn ôl troed gofalus a chraff J. Gwenogvryn Evans felly, a'r gobaith yw y bydd ein fersiynau XML o'r llawysgrifau hyn yn archwiliadwy gan y gynulleidfa ehangaf bosibl.

Corff Electronig o Ryddiaith Cymraeg Canol

2. Corpws Hanesyddol yr Iaith Gymraeg 1500-1850

David Willis (Prifysgol Caergrawnt)

Roedd papur David Willis yn canolbwyntio ar brosiect Corpws Hanesyddol yr Iaith Gymraeg 1500-1850, sef casgliad o destunau Cymraeg o'r cyfnod hwnnw mewn fformat electronig. Amcan y prosiect yw dechrau darparu adnodd electronig archwiliadwy ar gyfer ymchwil ieithyddol, llenyddol a hanesyddol, yn debyg i gorpora sydd eisoes ar gael ar gyfer ieithoedd fel y Saesneg, y Ffrangeg, yr Almaeneg a'r Wyddeleg.

Corpws Hanesyddol yr Iaith Gymraeg 1500-1850

3. Prosiect Dafydd ap Gwilym

Sara Elin Roberts (Prifysgol Cymru Abertawe)

Agorwyd y papur trwy drafod yn fyr gefndir cyhoeddi gwaith Dafydd ap Gwilym – y cyhoeddiadau cynnar (William Owen Pughe a’r Morisiaid), cyfraniad Ifor Williams, ac yna Gwaith Dafydd ap Gwilym gan Thomas Parry. Roedd gwaith Dafydd ap Gwilym yn boblogaidd iawn ac mae hyn yn egluro pam y cafodd ei waith ei gyhoeddi fwy nag unwaith. Yna, edrychais ar enghreifftiau o Waith Dafydd ap Gwilym Thomas Parry, gan drafod ei ddull o gyflwyno amrywiadau testunol: byddai’n rhestru’r llawysgrifau gan eu labelu, ac yna dangos yr amrywiadau ar gyfer pob llinell. Dyma’r ffordd safonol hyd heddiw o wneud hyn. Fodd bynnag, mae amrywiadau o’r fath yn anodd i’w defnyddio gan fod y print yn fân, ac os oes mwy na hanner tudalen, mae’n gwneud gwaith anodd ar gyfer y darllenydd gan fod angen neidio yn ôl ac ymlaen rhwng y testun a’r amrywiadau. Mae’r dull yma hefyd yn golygu bod camgymeriadau yn yr amrywiadau. Nid beirniadaeth ar Thomas Parry yw hyn; roedd yn gwneud ei orau dan yr amgylchiadau.

Yna, edrychwyd ar y wefan sydd yn cael ei chynhyrchu gan aelodau’r prosiect. Mae’r wefan yn cynnig testun golygedig, aralleiriad, cyfieithiad, nodiadau, a stema ar gyfer bob cerdd, ac mae modd edrych ar y golygiad ochr yn ochr â’r elfennau eraill – felly gellir cael y gerdd wedi ei golygu ar un hanner y sgrîn, a’r testun wedi ei aralleirio yn yr hanner arall. Rydym hefyd wedi llwyddo i ddangos yr amrywiadau testunol fesul llinell; drwy glicio ar linell o’r testun golygedig, mae’r amrywiadau yn y prif lawysgrifau yn ymddangos ar yr ochr dde, fel bod modd i’r defnyddiwr eu darllen ei hun, ac maent yn glir ac yn amlwg. Mae hefyd testunau o’r llawysgrifau ar gael er mwyn eu darllen ochr yn ochr â’r testun golygedig, ac mae lluniau digidol o’r prif lawysgrifau ar gael. I orffen, cafwyd olwg ar y cronfeydd – mae modd dewis naill ai unrhyw gerdd, a dangos ym mha lawysgrifau y mae’r gerdd yn ymddangos, neu unrhyw lawysgrif, i ddangos pa gerddi o waith Dafydd ap Gwilym sydd yn y llawysgrif honno.

Dafydd ap Gwilym.net

4. Cronfa Ddata Enwau Lleoedd Melville Richards

Gruff Prys (Canolfan Ymchwil Enwau Lleoedd, Prifysgol Cymru, Bangor)

Aeth Gruff Prys â ni ar daith trwy brosiect cyffrous Prifysgol Cymru Bangor i ddigido cronfa ddata enfawr yr Athro Melville Richards o enwau lleoedd.

Canolfan Ymchwil Enwau Lleoedd

5. Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Lyn Léwis Dafis

Lyn Léwis Dafis discussed some of the digitising processes used at the National Library of Wales, with particular reference to digitising manuscripts.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

6. ‘A-B-C Digido: Un Enghraifft, Gwefan Ddigidol Ann Griffiths’.

Peter Keelan: Llyfrgellydd Salisbury, Prifysgol Caerdydd

Crëwyd gwefan ddigidol Ann Griffiths ar y cyd rhwng Ysgol y Gymraeg a Llyfrgell y Brifysgol, dan gyfarwyddyd Dr Wyn James, i gefnogi dysgu ac ymchwil yn y maes ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cyfrannodd y wefan at waith ehangach yr Ysgol a’r Llyfrgell mewn nifer o ffyrdd. Daeth y wefan â nifer o ddogfennau o Gaerdydd ac Aberystwyth at ei gilydd i greu casgliad eang iawn ar y pwnc; er enghraifft, llawysgrifau o’r Llyfrgell Genedlaethol, llyfrau a thraethodau ymchwil o Brifysgol Caerdydd, erthyglau o hen gylchgronau, ac ati. Ar yr un pryd, caiff staff a myfyrwyr, ac ymchwilwyr byd eang, fynediad yn syth i ddogfennu prin ar y we fyd eang, a oedd gynt dan glo yn y Llyfrgell.

Mae tair rhan i’r wefan:

  1. Dros gant o destunau digidol o weithiau am Ann Griffiths, ei chefndir, bywyd a gwaith gan awduron gwahanol.
  2. Cyflwyniad i’w bywyd a chyfieithiadau o’i hemynau a’i llythyrau cynnar.
  3. Llyfryddiaeth swmpus o’r llyfrau, erthyglau, llawysgrifau, a thraethodau a gafodd eu digido ar gyfer y wefan.

Canmolwyd y wefan hon yn dilyn ei lansiad yn 2003, ac y mae ystadegau yn dangos bod ymchwilwyr o bedwar ban byd yn ymweld â'r wefan bob mis. Serch hynny, sylwodd Ysgol y Gymraeg a Llyfrgell y Brifysgol fod lle i wella rhai agweddau ar y wefan:

Mae hyn i gyd yn tanlinellu’r angen i gynllunio prosiectau digido fel gwaith parhaol, nid rhywbeth sy’n dod i ben ar ôl lansio’r safle. Gall costau hir dymor fod yn fwy na’r disgwyl, ac mae cynnal a chadw ffeiliau digidol dros y blynyddoedd eto’n bwnc i’w ystyried yn ofalus mewn prosiectau o’r fath.

Gwefan Ddigidol Ann Griffiths

7. Gwasg Prifysgol Cymru

Ashley Drake

Traddododd Ashley Drake, Cyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru bapur ar yr her sy'n wynebu cyhoeddi academaidd yn yr unfed ganrif ar hugain.

Gwasg Prifysgol Cymru