Cymdeithaseg y Gymraeg yn y Wladfa
Mae’r Athro Robert Owen Jones, ynghyd â’r cynorthwy-ydd ymchwil Walter Brooks, wedi bod yn gweithio ar ddau brosiect a ariannwyd gan The Leverhulme Trust (‘Goroesiad iaith? Y Gymraeg a’r Gymuned Gymreig yn y Wladfa’ a ‘Deinameg Adfywiad Iaith yn Chubut’) sy’n canolbwyntio ar gymdeithaseg y Gymraeg (1900 – 2000) yn Nyffryn Camwy ac yng ngodre’r Andes ym Mhatagonia.
Olrheiniwyd twf dwyieithrwydd Cymraeg / Sbaeneg a’r tuedd diweddarach i beidio â throsglwyddo’r Gymraeg o’r naill genhedlaeth i’r llall. Ceisiwyd ynysu’r ffactorau a achosodd erydiad yn y defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg ond hefyd dadansoddwyd y ffactorau a barodd i’r Gymraeg oroesi er gwaethaf y ffaith ei bod yn iaith leiafrifol ac yn un ddi-statws. Y nod oedd dangos safle’r iaith yn y cymunedau ar wahanol adegau a’r gydberthynas rhyngddi â ffactorau economaidd, addysgol, gwleidyddol, diwylliannol, crefyddol a chymdeithasol.
Y rhan bwysicaf o’r gwaith maes oedd sicrhau cyfweliadau â thrawsdoriad eang o siaradwyr y Gymraeg. Gwnaethpwyd defnydd helaeth o ffynonellau ysgrifenedig mewn amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac mewn casgliadau preifat. Mae ffrwyth yr ymchwil eisoes yn cael ei gyhoeddi ar ffurf erthyglau academaidd, a bydd cyfrol yn ymddangos i ledaenu prif ganlyniadau’r prosiect.
Cyhoeddiadau
Walter Ariel Brooks, ‘Polisïau Addysg, Iaith a Hunaniaeth yn Y Wladfa (1900-1946)’, Y Traethodydd (i’w chyhoeddi).
Brooks, Walter Ariel and Geraldine Lublin, 'The Eisteddfod of Chubut, or how the reinvention of a tradition has contributed to the preservation of a language and culture', yn Beyond Philology. International Journal of Linguistics, Literary Studies and English Language Teaching, 4 (2007), 245-59.
Robert Owen Jones, ‘Trai a gobaith… II’, Y Traethodydd, 678 (2006), 148-61.
Walter Ariel Brooks, ‘Algunas consideraciones sobre los patrones de casamiento en el Valle del Chubut (1900-1960)’, yn Segundo Foro Internacional Sobre los.
Galeses en la Patagonia (Puerto Madryn, 2006), 231-48.
Walter Ariel Brooks and Geraldine Lublin, 'Croesi ffiniau diwylliannol', Taliesin, 25 (2005), 94-6.
