Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

38ain Gynhadledd Faledi Ryngwladol

Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd

Dydd Llun, 28 Gorffennaf – Dydd Sadwrn, 2 Awst 2008

Bob blwyddyn daw criw o academyddion, perfformwyr a ‘lleygwyr’ brwd ynghyd o bedwar ban byd i’r Gynhadledd Faledi Ryngwladol, i wrando ar gyfres o bapurau ar agweddau amrywiol ar fyd y faled a chanu traddodiadol, ac i gael eu cyflwyno – trwy gyfrwng perfformiadau, gwibdeithiau a darlithoedd – i ddiwylliant gwerin y wlad y mae’r Gynhadledd yn ymweld â hi.

Tro Cymru yw hi i groesawu’r Gynhadledd yn 2008, oherwydd cynhelir y 38ain Gynhadledd Faledi Ryngwladol yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd o nos Lun, 28 Gorffennaf hyd brynhawn Sadwrn, 2 Awst 2008, yn union cyn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch.

Y Gynhadledd Faledi Ryngwladol yw’r prif fforwm academaidd ar gyfer trafod ac astudio baledi a chaneuon traddodiadol. Fe’i cynhelir dan nawdd y KfV (y ‘Kommission für Volksdichtung’), corff o ysgolheigion ym myd canu traddodiadol a sefydlwyd yn Freiburg yn yr Almaen yn 1966. Bellach mae aelodaeth y Comisiwn yn cynnwys trawstoriad o arbenigwyr o nifer helaeth o wledydd, a’r rheini’n awdurdodau ar amrywiol agweddau ar ganu traddodiadol – y geiriau, y gerddoriaeth, ei hanes a’r dulliau o’i berfformio.

Mae’r Gynhadledd Faledi yn symud o wlad i wlad yn flynyddol, a hynny yn Ewrop yn bennaf. Bu’n ymweld â Chymru unwaith o’r blaen, pan ddaeth i Abertawe yn 1996. Oddi ar hynny, bu’n ymweld â phrifysgolion yn yr Alban, yr Almaen, Gwlad Belg, Hwngari, Latfia, Rwmania, Slofenia, Tecsas a’r Wcráin.

Cymru yw cartref y Gynhadledd eto yn 2008, yng Nghaerdydd y tro hwn, a hynny’n addas iawn o gofio fod Prifysgol Caerdydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 125 oed yn 2008, ac o gofio hefyd gyfraniad pwysig Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd i astudiaethau gwerin yng Nghymru – nid lleiaf trwy’r radd MA mewn Astudiaethau Gwerin a ddysgir ar y cyd rhwng Ysgol y Gymraeg a’r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan.

Dyma wahoddiad, felly, i rai nad ydynt efallai wedi mynychu’r Gynhadledd hon o’r blaen, i ddod i fwynhau ei hawyrgylch gartrefol, y gwmnïaeth ryngwladol, a’r amrywiaeth eang o bynciau a fydd yn cael ei drafod ynddi – ac efallai i gynnig papur eich hun mewn maes yr ydych yn arbenigo ynddo.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Trefnydd y Gynhadledd:

Trefnydd y Gynhadledd: Dr E. Wyn James

Phone: +44 (0)29 208 74843
Fax: +44 (0)29 208 74604
Address:
Ysgol y Gymraeg

Prifysgol Caerdydd
Adeilad y Dyniaethau
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU

Gweler Hefyd