Adnoddau Llyfrgell
Daliadau yn ymwneud â'r Cymry yn America yn Llyfrgell Salisbury, Prifysgol Caerdydd
Un o'r prif gasgliadau ymchwil ym maes astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yw Llyfrgell Salisbury, sef llyfrgell Gymreig a Cheltaidd Prifysgol Caerdydd. Mae ynddi tua 100,000 o eitemau, yn gyfuniad o lyfrau, pamffledi, cylchgronau, mapiau, printiau ac archifau.
Mae gan y Llyfrgell ddefnyddiau o bob math sy'n berthnasol i feysydd ymchwil Canolfan Uwchefrydiau Cymry America, gan gynnwys nifer helaeth o lyfrau yn ymwneud â'r Cymry yng Nghanada, Patagonia a'r Unol Daleithiau yn ogystal â mannau eraill yr ymsefydlodd y Cymry ynddynt dramor.
Mae Llyfrgell Salisbury yn gartref i gasgliad sylweddol o feicroffilmiau o lawysgrifau yn ymwneud â Chymry America ac o feicroffilmiau a chopïau caled o bapurau newydd a chylchronau Cymreig a gyhoeddwyd yn America, megis:
- Y Cenhadwr Americanaidd (UDA)
- Y Cyfaill o'r Hen Wlad (UDA)
- Y Drafod (Patagonia)
- Y Drych (UDA)
- Ninnau (UDA)
Mae gan y Llyfrgell hefyd feicroffilmiau o'r Scranton Republican, 1893-1907, sy'n cynnwys defnyddiau ynghylch y Cymry ym Mhensylfania yn ystod y cyfnod hwnnw
Yn ogystal, y mae gan y Llyfrgell gasgliad helaeth o bapurau newydd a chylchgronau Cymraeg a Saesneg o'r bedwaredd ganrif a'r bymtheg a'r ugeinfed, sy'n cynnwys llawer o ddefnyddiau sy'n berthnasol i'r Cymry yng Nhanada, Patagonia a'r Unol Daleithiau.
Gellir chwilio casgliad Llyfrgell Salisbury trwy ddefnyddio system Voyager.



