Ewch i’r prif gynnwys

Rhoi

Gallai eich rhoddion helpu i ariannu ysgoloriaeth neu fwrsariaeth, darparu cyfleusterau newydd neu gefnogi ein gwaith ymchwil sy’n newid bywydau.

Diolch ichi am ddewis cefnogi Prifysgol Caerdydd. Mae pob cyfraniad – beth bynnag ei faint – yn cael effaith hirdymor ar ein gwaith o addysgu a dysgu, a’n gwaith ymchwil, sy’n flaenllaw ledled y byd

Rhowch un rhodd neu rodd reolaidd ar lein.

O’ch achos chi, mae Prifysgol Caerdydd yn gallu achub, newid a chyfoethogi bywydau. Rydych chi'n galluogi ymchwil sy'n newid bywydau ac yn rhoi'r sylfaen i fyfyrwyr ffynnu.

Gall rhodd wneud gwahaniaeth parhaol i genedlaethau’r dyfodol, gan ysbrydoli ein myfyrwyr i holi, bod yn arloesol a gwneud newid gwirioneddol i’r byd yr ydym yn byw ynddo.

How you can help

Gallwch helpu cefnogi myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd drwy sicrhau prifysgol i bawb, cynyddu cynaliadwyedd a chefnogi iechyd a lles.

Sut gallwch helpu cefnogi arweinwyr y dyfodol mewn ymchwil canser i ddatblygu diagnosis, triniaeth ac ataliaeth well.

Gallwch gefnogi ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd i ddatblygu diagnosis a thriniaethau mwy effeithiol.

Get involved

Rhedwch yn ôl traed y goreuon a chodi arian ar gyfer Prifysgol Caerdydd yn Hanner Marathon Caerdydd.

Os gallwch ystyried rhoi rhodd o £83.50 y mis - neu un rhodd o £1,000 neu fwy – gallech ddod yn aelod o Gylch Caerdydd.