Mae'r Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth i fyfyrwyr ac ymgeiswyr sydd ag anawsterau dysgu penodol, anableddau, cyflyrau meddygol ac anawsterau iechyd meddwl. Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol ac anfeirianiadol i'ch cynorthwyo yn ystod eich astudiaethau yng Nghaerdydd e.e. drwy gynnig gwybodaeth am arian sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr anabl a'ch cynorthwyo i wneud cais am newidiadau rhesymol, a'u rhoi ar waith, yn ogystal â llawer iawn mwy.













