Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Gwybodaeth i Ymgeiswyr a Darpar Fyfyrwyr

Isod dylech chi gael yr holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen wrth i chi wneud cais i ddod i Brifysgol Caerdydd. Mae gennym ni dîm o gynghorwyr yn y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia i chi drafod unrhyw gwestiwn gyda hwy. Cysylltwch â’r Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia ag unrhyw ymholiad.

 

Gwneud cais i Brifysgol Caerdydd a beth i’w wneud:

 

Gwnewch gais drwy UCAS (y llwybr mwyaf cyffredin)

Mae’n bwysig i chi ddatgelu’ch anabledd a/neu’ch dyslecsia ar eich ffurflen gais er mwyn i ni gael gwybod am eich cais. Yna, fe ysgrifennwn ni atoch chi.
D.S. Fydd datgelu anabledd ddim yn effeithio ar eich siawns o gael cynnig gan Brifysgol Caerdydd. Ond gan fod meini prawf Addasrwydd i Ymarfer yn rheoli rhai cyrsiau, cysylltwch â’r ysgol berthnasol neu’r Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia i gael gwybod rhagor. Ar ôl i chi ddatgelu:

Cewch becyn gwybodaeth gan y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia

Cewch becyn gwybodaeth gan y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia Ynddo, bydd y dogfennau hyn:

Bydd angen i chi wneud hyn:
      - darllen y canllaw yn ofalus gan nodi’r cymorth a all fod ar gael i chi
       - llenwi a dychwelyd yr holiadur ar ôl ateb y cwestiynau mor drylwyr ag y gallwch chi
       - anfon copi o’ch tystiolaeth ddiweddaraf atom ni gyda’r holiadur
        ar ôl i ni edrych ar gopi o’r dystiolaeth, fe gysylltwn ni â chi os bydd angen i chi anfon unrhyw beth arall atom.

Gwneud cais am eich Lwfans Myfyrwyr Anabl (y DSA)

Fe ddechreuwch chi gael cynigion gan brifysgolion ac, ar ôl i chi benderfynu ar eich dewis cyntaf, bydd angen i chi wneud cais am eich DSA. I wneud hynny, bydd angen i chi wirio pwy yw’ch corff ariannu.

Mynd i Asesiad o’ch Anghenion

Os ydych chi’n gymwys i gael DSA, cewch lythyr gan eich corff ariannu i gymeradwyo apwyntiad i Asesu’ch Anghenion. Gallwch chi gael apwyntiad yn y Ganolfan Asesu yng Nghaerdydd neu chwilio yma i gael gwybod ble mae’r Ganolfan Asesu NNAC agosaf atoch.

Adroddiad ar Asesiad o’ch Anghenion

Ar ôl eich apwyntiad i asesu’ch anghenion, cewch adroddiad ac argymhellion ynddo. Bydd angen i chi ei gadw’n ddiogel a rhoi copi ohono i’r brifysgol y bwriadwch astudio ynddi.

Gwneud Cais am Lety

Argymhellir eich bod yn gwneud cais am lety mewn neuaddau preswyl cyn gynted â phosibl. Os oes gennych chi ofynion penodol, h.y. oergell fach yn eich ystafell, bod yn ymyl eich darlithiau, mynediad mewn cadair olwyn i’ch ystafell, neu hyd yn oed ystafell ychwanegol ar gyfer eich gofalwr, ac ati, rhowch wybod i ni. Os bydd y cais yn un rhesymol, gall y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia ei gefnogi.

 

Cychwyn yn y Brifysgol – Wythnos y Glasfyfyrwyr

Cyflwyniad i’r Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia

Cewch chi wahoddiad i ddod i sesiwn i’ch cyflwyno i’r Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia. Bydd hynny’n gyfle i chi gyfarfod â chynghorydd, cyflwyno unrhyw dystiolaeth nad ydym ni wedi’i chael o’r blaen, cofrestru gyda’r Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, llenwi ffurflen darpariaethau arholiad, rhoi copi i ni o’r adroddiad ar yr Asesiad o’ch Anghenion, a threfnu unrhyw apwyntiad wnaiff ddilyn o hynny.

 

Cyfeiriwch at ein Rhestr Wirio isod i gael rhestr glir o’r hyn y bydd angen i chi ei wneud cyn cychwyn yn y brifysgol.

Os hoffech chi wybod rhagor am y cymorth sydd ar gael yma, edrychwch ar y canllawiau gennym sy’n sôn yn benodol am eich anabledd chi.