Y Broses Asesu
Beth fydd yn digwydd pan ga’ i Asesiad o’m Hanghenion ar gyfer y DSA
Sut mae gwneud apwyntiad
I gysylltu â’r ganolfan asesu i wneud apwyntiad, gallwch ffonio 029 2087 4844, e-bostio dsaadmin@cardiff.ac.uk, disability@caerdydd.ac.uk, ysgrifennu ar y Ganolfan Cymorth Myfyrwyr neu alw heibio. Fe welwch chi’n cyfeiriad a’n horiau agor yn ein hafan.
A fydd angen i mi gyflwyno unrhyw wybodaeth neu ddogfen i’r Ganolfan Asesu?
Cyn i apwyntiad allu cael ei gadarnhau, bydd angen i chi gyflwyno copi o’r dystiolaeth feddygol a gyflwynwyd gyda’ch cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl ac o’r llythyr gan eich corff ariannu (e.e. Student Finance England, Awdurdod Lleol, y GIG) sy’n awdurdodi’r Asesiad o Anghenion ar gyfer y DSA. Ar ôl i chi gael y rheiny, fe wnawn ni gadarnhau’ch apwyntiad ac anfon gwybodaeth ynghylch sut mae dod o hyd i ni.
Pan gaiff eich apwyntiad ei gadarnhau, cewch hefyd holiadur cyn-asesu byr. Bydd anfon hwnnw’n ôl atom cyn i chi gael eich asesu yn eich helpu chi a’r asesydd i baratoi ar gyfer yr asesiad.
Beth sy’n digwydd yn ystod yr asesiad?
Gan fod asesiad o’r unigolyn yn asesiad o’r anghenion ar gyfer y DSA, bydd pob apwyntiad yn wahanol. Ond bydd asesiadau’n para rhyw ddwyawr fel rheol. Mae’r asesiad yn gyfweliad anffurfiol i ddarganfod pa anghenion astudio sydd gennych; os bydd angen unrhyw dechnoleg i’ch helpu, bydd cyfle i roi cynnig arni yn ystod yr asesiad.
Ar ddiwedd y cyfweliad asesu, fe aiff yr asesydd drwy grynodeb o’r holl gymorth yr argymhellir i chi ei gael. Bydd yr asesydd yn holi a hoffech chi weld copi drafft o’r adroddiad arnoch ac a ydych yn cytuno i’r copi terfynol gael ei anfon yn uniongyrchol i’ch corff ariannu gyda chopi i chi yr un pryd.
Cewch gais hefyd am ganiatâd i’r adroddiad gael ei anfon i Wasanaeth Anabledd eich Prifysgol. Mae’n bwysig i chi gysylltu â’r Gwasanaeth hwnnw i sicrhau bod modd gweithredu’r holl gymorth sy’n gael ei argymell.
Beth sy’n digwydd i’r Adroddiad ar yr Asesiad o Anghenion ar gyfer y DSA?
- Os gofynnwch chi am gael gweld copi drafft, caiff ei anfon atoch chi ac ni chaiff ei anfon i’ch corff ariannu tan i chi gadarnhau eich bod chi’n fodlon ar yr adroddiad.
- Os nad oeddech chi am weld copi drafft ohono, caiff ei anfon atoch chi ac i’r corff ariannu yr un pryd. Cadwch eich copi’n ddiogel: mae gwybodaeth ddefnyddiol ynddo.
- Os cytunoch chi i gopi gael ei anfon i Wasanaeth Anabledd eich Prifysgol, caiff copi ohono ei anfon ymlaen.
- Caiff copi ohono’i gadw yng Nghanolfan Asesu Caerdydd.
Faint o amser y bydd yn ei gymryd?
Ceisiwn gadw at yr amserlenni hyn:
- Os cysylltwch chi â ni i wneud apwyntiad, fe atebwn ni cyn pen un diwrnod gwaith;/li>
- Caiff yr apwyntiad Asesu’ch Anghenion ar gyfer y DSA ei gynnal cyn pen 15 o ddiwrnodau gwaith ar ôl cadarnhau’r apwyntiad (pan fyddwn ni wedi cael yr holl ddogfennau angenrheidiol);
- T Caiff yr adroddiad drafft neu derfynol ei anfon cyn pen 10 diwrnod gwaith;
- Os byddwch chi wedi gweld y drafft, caiff hwnnw ei anfon i’ch corff ariannu cyn pen 1 diwrnod gwaith ar ôl cael eich cymeradwyaeth;
- Os byddwch chi neu’ch corff ariannu yn mynnu bod unrhyw newid yn cael ei wneud i’r adroddiad, caiff y newid ei wneud cyn pen 1 diwrnod gwaith.
How can I give the Assessment Centre feedback?
Caiff holiaduron eu hanfon atoch i werthuso’r cymorth a argymhellwyd ac i gael sylwadau ar eich profiad o’r broses asesu i gyd. Bydd hyn yn bwysig i ni am ei fod yn fodd i ni addasu’n gwasanaeth i ateb anghenion myfyrwyr yn well.
Bydd eich sylwadau’n cynnig syniadau ynghylch sut mae gwella’n gwasanaeth, yn dweud wrthym a ydych chi’n fodlon ac a yw pethau’n gweithio’n dda. Bydd eich sylwadau hefyd yn dweud wrthym am y meysydd yr ydych chi’n anfodlon â hwy ac yn rhoi cyfle i ni adolygu’r hyn yr ydym ni’n ei wneud. Os bydd gennych bryderon ynghylch Canolfan Asesu Caerdydd, cysylltwch â Rheolwr(aig) y Ganolfan Asesu.
Statws Achrededig
Mae Canolfan Asesu Caerdydd wedi’i hachredu gan y DSA-QAG, sy’n cadarnhau bod Canolfan Asesu Caerdydd wedi ymrwymo i ddarparu Asesiadau safonol o’u Hanghenion i fyfyrwyr sy’n cael y Lwfansau Myfyrwyr Anabl (y DSA) drwy lynu wrth Fframwaith Sicrwydd Ansawdd y DSA-QAG (QAF).
I sicrhau a chadw statws achrededig, rhaid i Ganolfan Asesu Caerdydd ddangos mewn archwiliad blynyddol ei bod hi’n cydymffurfio â meini prawf sicrwydd ansawdd y DSA-QAG. Mae hynny’n cynnwys:
- Cydymffurfio â Safonau a Mesuriadau Asesu Anghenion y DSA;
- Cydymffurfio â’r gofynion o ran polisi a gweithdrefn;
- Sicrhau mynediad i’r offer sy’n ofynnol er mwyn ei arddangos;
- Sicrhau bod yr aseswyr yn bodloni’r meini prawf o ran cymhwysedd y staff;
- Monitro a gwerthuso cyflwyno’r gwasanaeth;
- Cynnal archwiliad blynyddol.

