Canolfan Asesu Caerdydd
Mae’r ganolfan asesu yn ganolfan asesu anghenion sydd wedi’i hachredu ac yma gall myfyrwyr/ymgeiswyr sy’n gwneud cais y DSA gael eu hasesu a’u cynghori ynghylch cymorth ar gyfer astudio yn y Brifysgol. Yn y ganolfan asesu mae dwy ystafell asesu ac offer llawn ar gampws y Brifysgol, sef ar gampws Parc Mynydd Bychan a champws Cathays.
Gall myfyrwyr sydd ag anawsterau symudedd gyrraedd y ddwy ystafell asesu a gallant gyrraedd y campws mewn car, ar drên neu at fws. Gellir hefyd wneud trefniadau pellach i sicrhau hygyrchedd. Cysylltwch â ni os bydd gennych unrhyw angen eraill o ran hygyrchedd.
I drefnu apwyntiad
Cewch alw heibio i’r Ganolfan Cymorth Myfyrwyr i drefnu apwyntiad neu ein ffonio ar 029 2087 9127 rhwng 9am a 4.30pm.
Manylion Cysylltu
Canolfan Asesu Caerdydd Canolfan Cymorth Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd 50 Plas y Parce Cathays Caerdydd CF10 3AT
Ffôn: 02920 879127 Ffacs: 02920874947 E-bost: dsaadmin@caerdydd.ac.uk |
Canolfan Asesu Caerdydd Canolfan Cymorth Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd Ail Lawr, Tŷ Aberteifi Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd CF14 4XN
Ffôn: 02920 743811 Ffacs: 02920 742023 E-bost: dsaadmin@caerdydd.ac.uk |
Lleoliad y Ganolfan Asesu
Bydd y mapiau isod yn dangos i chi ble mae’r ganolfan asesu mewn perthynas â champws y Brifysgol. I gael gwybod rhagor ynghylch sut mae cyrraedd y Brifysgol, ewch i’r tudalen ar y we sy’n dangos lleoliadau’r Brifysgol ar fap.
Map Cathays

Map Parc Mynydd Bychan


