Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Y Lwfans Myfyrwyr Anabl (y DSA)

Caiff y Lwfans Myfyrwyr Anabl (y DSA) ei ddefnyddio i dalu am y cymorth y bydd arnoch chi ei angen i astudio o ganlyniad uniongyrchol i’ch anabledd, i’ch cyflwr meddygol tymor-hir, i’ch anhawster dysgu penodol neu anhawster tymor-hir o ran iechyd eich meddwl. Does dim prawf modd ar y DSA ac nid benthyciad mohono.

Mae’r DSA ar gael o ba gorff bynnag sy’n eich ariannu chi i astudio, e.e. Cyllid Myfyrwyr Cymru, Student Finance England, eich Awdurdod Lleol, yr SAAS, y Cynghorau Ymchwil neu’r GIG. Os nad ydych chi’n sicr pwy sy’n eich ariannu chi, gall y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia eich cynghori.

Ydw i’n gymwys i gael DSA?

Gan fod y DSA ar gael i’r mwyafrif o fyfyrwyr anabl o’r DU, gall y grwpiau isod o fyfyrwyr yn allu bod yn gymwys i gael DSA.

Israddedigion Amser-llawn o’r DU – GALLANT 
Israddedigion Rhan-amser o’r DU – GALLANT os yw’n 50% o gwrs amser-llawn *
Ôl-raddedigion Amser-llawn o’r DU – GALLANT 
Ôl-raddedigion Rhan-amser o’r DU – GALLANT os yw’n 50% o gwrs amser-llawn *

* Cysylltwch â chynghorydd yn y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia i ofyn a ydych chi’n gymwys

Nid yw myfyrwyr o’r UE na myfyrwyr Rhyngwladol yn dod o dan system DSA y DU. I gael gwybod pa gyllid arall sydd ar gael, darllenwch:

Fel rheol, nid yw myfyrwyr ar gyrsiau byr yn gymwys i gael y DSA. O dan yr amgylchiadau hynny, byddwn ni’n eich cynghori chi i gysylltu â’r Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia cyn gynted â phosibl i drafod y cymorth y bydd arnoch ei angen, ac unrhyw ofynion o ran cyllid, i chi allu astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Beth y mae’r DSA yn talu amdano?

Chaiff y DSA mo’i dalu mewn symiau penodol am fod pob dyfarniad yn cael ei seilio ar asesiad o anghenion yr unigolyn. Gallwch chi ddefnyddio’r DSA i ariannu’r canlynol hyd at yr uchafsymiau a ddangosir (mae’r symiau’n gywir ar gyfer 2010/11):

Myfyrwyr israddedig amser-llawn a rhan-amser

Math o lwfans

Myfyrwyr amser-llawn

Myfyrwyr rhan-amser

Offer a meddalwedd arbenigol

£5,161 am y cwrs cyfan             

£5,161 am y cwrs cyfan

Cynorthwyydd anfeddygol e.e. Sgiliau Astudio, cymerwyr nodiadau, cyfathrebwyr

£20,520 y flwyddyn

£15,390 y flwyddyn (gan ddibynnu ar ba mor ddwys yw’r cwrs)

Cyffredinol e.e. llungopïo, amrywiol eitemau, costau argraffu

  £1,724 y flwyddyn

 £1,293 y flwyddyn (gan ddibynnu ar ba mor ddwys yw’r cwrs)

Teithio 

 

Weithiau, mae modd talu costau teithio os oes rhaid i chi dalu rhagor i ddod i’r brifysgol

Myfyrwyr ôl-raddedig amser-llawn a rhan-amser   

Mae un lwfans sy’n talu’r holl gostau hyd at £10,260 y flwyddyn. Gallwch chi ei ddefnyddio i dalu am offer arbenigol, treuliau personol anfeddygol, costau teithiau ychwanegol neu gostau eraill sy’n gysylltiedig â’ch cwrs.

Sut mae gwneud cais am DSA?

I wneud cais am DSA rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth o’ch anabledd, eich anhawster iechyd meddwl, eich cyflwr meddygol tymor-hir neu’ch anhawster dysgu penodol i’ch corff ariannu, e.e. Cyllid Myfyrwyr Cymru (SFW), Student Finance England (SFE), eich AALl, SAAS, Uned Ddyfarniadau’r GIG neu’r Cyngor Cyllido. Yna, bydd y corff sy’n eich ariannu yn penderfynu a ydych chi’n gymwys.

Ein cyngor ni yw’ch bod chi’n gwneud cais am DSA cyn gynted â phosibl am y gall y broses gymryd sawl mis i’w chwblhau. Gall y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia eich helpu gyda’ch cais.

Sut mae gwybod pa offer a chymorth y bydd arna i eu hangen os caf DSA?

Yn gyntaf, bydd y corff sy’n eich ariannu yn cysylltu â chi i ddweud a yw’ch cais wedi’i gymeradwyo. Os ydyw, byddant yn eich cynghori chi i gael Asesiad o’ch Anghenion ar gyfer y DSA.  . Bydd yr asesiad hwnnw’n cyflwyno argymhellion ynghylch pa gymorth ac offer y bydd arnoch eu hangen, a gellir ei drefnu gan y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia yng Nghanolfan Asesu Caerdydd..

Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn neu os hoffech drafod rhagor ar broses y DSA, cysylltwch â ni i gael siarad â chynghorydd.

Gwybodaeth Bellach

Cliciwch yma i gael gwybod rhagor am y DSA gan y DSA-QAG, y corff sy’n rheoleiddio’r Asesiadau o Anghenion ar gyfer y DSA.