Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Y Trefniadau Arholi

Pa drefniadau all gael eu gwneud?

Mae’r math o gymorth y gellir ei drefnu yn dibynnu ar eich anghenion fel unigolyn, ond bydd y mathau nodweddiadol o addasiadau’n cynnwys:

• Amser Ychwanegol

• Darllenwyr/Ysgrifenwyr

• Papurau arholiad mewn meintiau ffont sy’n fwy o faint  

• Seibiannau cyffyrddusrwydd  

• Defnyddio bysellfwrdd a chyfrifiadur


Caiff pob penderfyniad ar y trefniadau arholi eu gwneud drwy’r Gofrestrfa Academaidda bydd angen ei ategu â thystiolaeth ddogfennol briodol. Y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia fydd yn prosesu’ch cais.

Sut mae rhoi fy Nhrefniadau Arholi ar waith?

Mae angen gofyn am unrhyw drefniant arholi neu addasiad i asesiad. Ni chaiff y trefniadau hynny mo’u rhoi ar waith yn awtomatig pan roddwch chi wybod i’r Brifysgol bod gennych chi anabledd. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau y caiff cais ei gyflwyno i’r Gofrestrfa Academaidd drwy’r Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia.

Dylech chi gyflwyno cais drwy lenwi’r ffurflen isod. Gallwch gael copi caled ohoni gan y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia:

Ffurflen Gais am Ddarpariaeth Benodol 2012-13 [33 KB]

 Ar ôl llenwi’r ffurflen gais, bydd angen dod â hi i’r Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia i gynghorydd ei hystyried. Yna, anfonir y cais i’r Gofrestrfa Academaidd i’w gymeradwyo (os oes modd). Os nad ydych chi’n sicr pa gymorth fydd orau i chi, gallwch gysylltu â ni i siarad â chynghorydd.  

Pryd y dylwn i roi fy Nhrefniadau Arholi ar waith?

Dylech chi wneud cais am Drefniadau Arholi cyn gynted â phosibl i sicrhau bod y trefniadau ar waith ar gyfer profion dosbarth yn ogystal ag arholiadau. Gall rhai profion dosbarth gychwyn mor gynnar â mis Hydref yn y flwyddyn academaidd. Dylech chi felly holi’ch ysgol.

Os byddwch chi wedi colli’r dyddiad cau ar gyfer sesiwn arholi penodol, cysylltwch â’r Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsiai drafod eich dewisiadau o ran yr arholiadau hynny a threfnu cael cymorth ar gyfer unrhyw arholiad yn y dyfodol.

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiwn neu os hoffech chi drafod rhagor ar y trefniadau arholiad, cysylltwch â ni i gael siarad â chynghorydd.