Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Cyfrinachedd a Datgelu Anabledd

Datganiad y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia ynghylch Cyfrinachedd


Caiff y wybodaeth a roddwch am eich amgylchiadau personol a’r nam sydd arnoch ei thrin fel gwybodaeth sensitif a chyfrinachol. Yr unig wybodaeth a gaiff fynd allan o’r Gwasanaeth yw gwybodaeth sy’n berthnasol o ran cydlynu’r cymorth a gewch chi, ac ni throsglwyddir y wybodaeth ond ar ôl cael eich caniatâd penodol chi.

Amgylchiadau eithriadol

Ni chaiff cyfrinachedd ei dorri:
• onid yw myfyrwyr mewn perygl o’u niweidio’u hunain neu niweidio eraill;
• onid oes gofyniad cyfreithiol i ddatgelu’r wybodaeth;
• onid oes amharu ar addasrwydd proffesiynol y myfyriwr i ymarfer.


Yn yr achosion hynny, byddai’r staff yn ceisio trafod y sefyllfa gyda chi cyn torri cyfrinachedd. Ym mhob achos, caiff penderfyniad i dorri cyfrinachedd ei gymryd gan uwch-aelod o’r Is-Adran ar ôl cynnal trafodaeth na fydd hi, ar y cychwyn, yn datgelu pwy ydych chi.

Manylion Caniatáu Cais i Ddiogelu Data


Storio gwybodaeth


Pan fyddwch chi’n cyfarfod ag aelod o dîm y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia am y tro cyntaf, cewch gais i gytuno i’r Gwasanaeth gael storio gwybodaeth ar bapur ac yn electronig.
• Bydd ffeil bapur yn cynnwys dogfennau meddygol neu adroddiadau seicolegydd a dogfennau eraill sy’n ymwneud â’ch gofynion chi fel unigolyn. Gall gohebiaeth â’ch corff ariannu hefyd gael ei chynnwys.
• Fe gedwir cronfa ddata electronig ac arni’ch manylion personol a’ch gofynion o ran cymorth. Gall hefyd gynnwys fersiynau electronig o nodiadau ffeil o gyfarfodydd â staff yr Is-Adran. Bydd cyfrinair yn diogelu’r holl wybodaeth electronig ac fe’i defnyddir wrth anfon llythyrau atoch, dilyn eich cynnydd gyda’ch cymorth a dadansoddi ystadegau dienw.

Bydd gennych chi’r hawl i weld y wybodaeth amdanoch chi a gedwir ar bapur neu’n electronig. Os hoffech chi ei gweld ar unrhyw adeg, cyflwynwch eich cais i Gynghorydd Anabledd.

Rhag ofn yr hoffech chi gysylltu â ni am unrhyw reswm, caiff ein cofnodion eu cadw am 6 blynedd ar ôl i chi adael Prifysgol Caerdydd.

Rhannu gwybodaeth


I sicrhau bod modd i’r Brifysgol ddarparu cymorth i fyfyrwyr anabl, efallai y bydd yn rhaid rhannu gwybodaeth am eich anghenion ymhlith staff y Brifysgol a rhai asiantaethau allanol sy’n ymwneud â darparu cymorth i chi, e.e. eich Awdurdod Addysg Lleol neu gorff ariannu arall. Ar yr adeg briodol, bydd cynghorydd yn trafod y cod cyfrinachedd mewn perthynas â rhannu gwybodaeth.  

Os yw natur eich nam yn anabledd o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, caiff y cofnod amdanoch a gedwir ar y System Rheoli Gwybodaeth am Fyfyrwyr (SIMS) ei diweddaru i gofnodi’ch bod chi wedi datgan bod anabledd arnoch. Os ydych chi’n cael y Lwfans Myfyrwyr Anabl, caiff hynny hefyd ei gofnodi ar SIMS. Caiff y cofnod ei drin fel un cyfrinachol yn y Brifysgol a’i ddefnyddio i helpu’r Brifysgol i gyflawni ei rhwymedigaethau o dan y Ddeddf, gan gynnwys dyletswyddau monitro a gwneud addasiadau ar eich cyfer.

Does dim rheidrwydd arnoch chi i gytuno i’r data am eich anabledd gael eu rhannu fel hyn. Hyd yn oed os na chytunwch chi, bydd y Brifysgol yn cymryd pob cam ymarferol i wneud addasiadau rhesymol, ond fe all fod cyfyngiadau ar y math o addasiadau y gellir eu gwneud yn rhesymol.

Fe ofynnwn ni am eich caniatâd chi cyn datgelu unrhyw wybodaeth am eich anabledd y tu allan i delerau’r cytundeb hwn oni fydd amgylchiadau eithriadol, a restrwyd uchod, yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni ddatgelu’r wybodaeth er lles y cyhoedd. Caiff y data personol amdanoch chi bob amser eu prosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.

Os bydd gennych chi unrhyw bryder neu gwestiwn am gyfrinachedd a diogelu data, mynnwch air ag aelod o staff y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia.