Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Gwybodaeth i’r Staff

Anabledd a Dyslecsia: Goblygiadau ar gyfer dysgu ac addysgu

Mae’n bosibl y bydd y staff am ddilyn y dolenni wrth ochr y tudalen hwn i ddysgu rhagor am oblygiadau Dyslecsia, Amhariad ar y Clyw, Amhariad Corfforol ac anawsterau Iechyd Meddwl ar gyfer dysgu ac addysgu.

Deddfwriaeth

Cafodd Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 ei diwygio gan Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001. O fis Medi 2002 ymlaen, parodd y Ddeddf ei bod yn anghyfreithlon i sefydliadau addysg uwch wahaniaethu yn erbyn myfyrwyr sydd ag anableddau a dyslecsia. Dilynwch y ddolen i ‘Ran IV o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd’ i gael rhagor o fanylion. Yn 2005, cafodd y Ddeddf ei diwygio ymhellach i greu dyletswydd gadarnhaol ar awdurdodau cyhoeddus i hybu cyfle cyfartal i bobl sydd ag anabledd a phobl sydd heb anabledd. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ac am y Cynllun Cydraddoldeb Anabledd ar gael dwy ddilyn y ddolen i Ran V o’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd.

Datgelu Anabledd

Un pwysig yw cwestiwn cyfrinachedd, yn enwedig yng ngoleuni Rhan IV o’r Ddeddf. Ceir canllawiau a chyngor ymarferol ar y tudalen ar y ‘Polisi Datgelu’.

Cysylltiadau Staff ar gyfer Myfyrwyr sydd ag Anableddau  

Mae pob ysgol academaidd wedi enwebu cysylltwr ar gyfer myfyrwyr sydd ag anableddau. Ewch i ‘Cysylltiadau Staff i Fyfyrwyr sydd ag Anableddau’ i gael rhagor o wybodaeth a rhestr o’r cysylltwyr hyn.