Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Y Llyfrgell a’r Gwasanaeth Cyfrifiadura

Mae Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Gwybodaeth y Brifysgol yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i fyfyrwyr anabl. Mae rhai o’r gwasanaethau ar gael i bob myfyriwr sydd â chyfrif cyfrifiadura Prifysgol Caerdydd ond bydd eraill yn gofyn i chi gyflwyno rhyw dystiolaeth ddogfennol o’ch anabledd.

Benthyciadau Estynedig o’r Llyfrgell

Pwy gaiff wneud cais am fenthyciadau estynedig o’r llyfrgell?

Gall myfyrwyr sydd â salwch, anabledd neu anhawster dysgu penodol, fel dyslecsia, fod â hawl i ddefnyddio’r gwasanaethau benthyciadau estynedig o’r llyfrgell. Cewch gyfle i gyfarfod â chynghorydd i weld a yw’r gwasanaeth hwnnw’n ateb eich anghenion chi. Er enghraifft, efallai y cewch anhawster teithio yn ôl ac ymlaen i’r llyfrgell, y cymerwch chi fwy o amser na’r mwyafrif o bobl i loffa gwybodaeth wrth i chi ddarllen, neu fod llunio nodiadau ymchwil yn cymryd amser maith i chi.

Sut mae gwneud cais am fenthyciadau estynedig o’r llyfrgell?

Rhaid i Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Gwybodaeth y Brifysgol gymeradwyo ceisiadau am fenthyciadau estynedig o’r llyfrgell, a rhaid eu cyflwyno drwy’r Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia. Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o’ch salwch, eich anabledd neu’ch anhawster dysgu penodol. Fel rheol, bydd hynny’n cynnwys llythyr gan weithiwr proffesiynol ym maes gofal iechyd, fel eich meddyg, eich ffisiotherapydd neu’ch therapydd galwedigaethol, neu gopi o adroddiad Seicolegydd Addysg. Os hoffech chi drafod rhagor ar eich cymhwysedd i gael benthyciadau estynedig o’r llyfrgell, cysylltwch â’r Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia i ofyn am gael siarad â chynghorydd.

Pryd y dylwn i gyflwyno fy nghais am fenthyciadau estynedig o’r llyfrgell?

Er y gallwch chi ofyn ar unrhyw adeg am fenthyciadau estynedig o’r llyfrgell, y peth gorau yw gwneud cais cyn gynted â phosibl i sicrhau y cewch chi gymorth i’ch addysg.

Pa estyniadau y gellir eu cymeradwyo?

Os caiff eich cais ei gymeradwyo, bydd gennych chi’r hawl i gael dwbl y cyfnod benthyca arferol ar fenthyciadau rhwng wythnos a phythefnos ac ar fenthyciadau tymor-byr ar yr amod nad oes galw mawr am yr eitem. Bydd nifer y llyfrau y mae galw mawr amdanynt yn amrywio o lyfrgell i lyfrgell ac o bwnc i bwnc.

Gwasanaethau eraill y llyfrgell

Mae’r staff yn holl lyfrgelloedd y Brifysgol ar gael i’ch helpu i wneud hyn:

  • Dod o hyd i lyfrau a mynd i’w nôl 
  • Trefnu i ddefnyddiau llyfrgell gael eu hanfon i’ch cartref
  • Cael detholiad o ddeunydd mewn gwahanol fformatau

Offer Cynorthwyol

Gall llyfrgelloedd penodol o amgylch y campws hefyd ddarparu offer fel bysellfyrddau a llygod amgen, chwyddwyr fideo a desgiau y gellir addasu eu huchder. Mae gan Lyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol foglynydd Braille ac arddangosydd Braille, ac mae gan y Llyfrgell Nyrsio hefyd arddangosydd Braille. I weld manylion llawn yr holl offer cynorthwyol sydd ar gael, a manylion y llyfrgelloedd lle maent ar gael, dilynwch y cyswllt hwn: caledwedd gynorthwyol

Y Gwasanaethau Cyfrifiadura

Mae amryw o raglenni meddalwedd gynorthwyol ar gael ar rwydwaith cyfrifiadura y Brifysgol a gall pob myfyriwr sydd â chyfrif cyfrifiadura Prifysgol Caerdydd ddefnyddio’r isod drwy Start/Networked Applications/Assistive Software:

Mae’r canlynol ar gael drwy Start/Networked Applications/General Software/Concept & Mind Mapping:

Mae amryw o becynnau o feddalwedd gynorthwyol eraill ar gael o leoliadau penodol yn unig, fel JAWS, ZoomText Magnifier, Kurzweil 1000 a Kurzweil 3000. Mae gan bob myfyriwr hawl i ddefnyddio’r cyfrifiaduron hynny, ond y rhai ag anableddau a gaiff y flaenoriaeth. Gellir darparu hyfforddiant ynghylch defnyddio meddalwedd benodol. Cysylltwch â’r Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia i gael gwybod rhagor am gael yr hyfforddiant hwnnw.

I gael gwybod rhagor am unrhyw un o’r cyfleusterau hynny, holwch wrth ddesg wybodaeth unrhyw lyfrgell neu’r cyswllt anabledd yn y llyfrgell yr hoffech chi ei defnyddio.