Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Sgrinio a Phrofi ar gyfer Anawsterau Dysgu Penodol

Gall y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia sgrinio am anawsterau dysgu penodol yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Gall ein cynghorwyr sgrinio am anawsterau fel dyslecsia, dyspracsia, dyscalcwlia ac ADHD.

Gall eich tiwtor fod wedi argymell eich bod chi’n dod i mewn i siarad â chynghorydd, neu fe allwch chi’ch cyfeirio’ch hun. Bydd myfyrwyr yn eu cyfeirio’u hunain am lawer rheswm, ac os nad ydych chi’n sicr mai hwn fydd y dewis gorau i chi cewch siarad â chynghorydd cyn i unrhyw brofi gychwyn.

Gan fod cyfeiriad atom i chi gael eich sgrinio yn gyfeiriad cyfrinachol, fydd dim rhaid i chi ddweud wrth neb eich bod chi wedi bod i’n gweld ni.

Sut mae trefnu apwyntiad sgrinio?

  • Trefnwch apwyntiad â chynghorydd i gael y cyfweliad cychwynnol ar gyfer eich sgrinio. Gallwch chi wneud hynny drwy anfon e-bost i dyslexia@caerdydd.ac.uk, ffonio 029 20874844 neu alw heibio i’r Ganolfan Cymorth Myfyrwyr.
  • Fel rheol, bydd yr apwyntiad cychwynnol yn para awr.  
  • Cewch chi gais hefyd i gwblhau rhaglen sgrinio gyfrifiadurol o’r enw QuickScan. Bydd QuickScan yn argraffu adroddiad sy’n rhoi proffil o’ch cryfderau a’ch gwendidau cymharol. Bydd hefyd yn rhoi crynodeb o’ch ffordd o ddysgu ac yn awgrymu strategaethau astudio effeithiol.
  • Gan ddibynnu ar ganlyniadau QuickScan, efallai y cewch chi gais i gwblhau rhaglen sgrinio gyfrifiadurol arall o’r enw StudyScan. Bydd honno’n cynnig asesiad manylach o unrhyw anhawster penodol ac yn cymryd mwy o amser na QuickScan. Efallai y gallwch chi gwblhau’r StudyScan ar yr un diwrnod â’ch apwyntiad cychwynnol, ond bydd hynny’n dibynnu ar faint o amser fydd gennych chi. Os na allwch chi ei gwblhau yr un diwrnod, cewch wneud apwyntiad i’w orffen ar adeg fwy addas. Weithiau, caiff y Prawf Sgrinio Oedolion am Ddyslecsia ei ddefnyddio yn lle StudyScan, ond fel rheol fe wneir hynny os oes cyfyngiadau ar amser neu os bydd hynny’n cyd-fynd yn well â’ch anghenion chi.
  • Yn achos cyflyrau fel ADHD nad yw StudyScan yn eu canfod, caiff y prawf ei gynnal ar ôl yr apwyntiad cychwynnol.
  • Caiff canlyniad y sgrinio ei drafod gyda chi, ac os oes arwyddion bod gennych chi anhawster dysgu penodol cewch gyngor ynghylch cael asesiad ffurfiol ohono. Cewch ragor o fanylion isod.
  • Bydd rhai myfyrwyr yn dewis peidio â bwrw ymlaen â’r sgrinio ar yr adeg hon. Ym mhob achos, bydd cynghorydd yn esbonio wrthych chi pa effaith a gaiff y penderfyniad hwnnw ar ddarparu cymorth i chi.

Beth fydd yn digwydd os bydd angen i mi gael asesiad ffurfiol?

  • Gall ein Seicolegydd Addysg roi prawf am ddyslecsia neu am Anhawster Dysgu Penodol arall yn fewnol. Caiff yr apwyntiad ei drefnu ar eich cyfer drwy’r Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia.
  • Ar hyn o bryd, cost asesu Anhawster Dysgu Penodol yw £250.
  • Gall myfyrwyr cyfredol fod yn gymwys i hawlio cost y prawf oddi wrth y Gronfa Arian Wrth Gefn. Mae prawf modd ar y gronfa honno ac mae hi ar gael i fyfyrwyr cartref (o’r DU) i helpu’r rhai sy’n wynebu caledi ariannol. Cewch chi ragor o fanylion yma: Y Gronfa Arian Wrth Gefn
  • Mae’r profion a wneir yn cynnwys Graddfeydd Deallusrwydd Oedolion Weschler a phrofion safonedig ar ddarllen a sillafu.
  • Bydd yr adroddiad a gynhyrchir yn cydymffurfio â’r canllawiau cenedlaethol ac yn bodloni’r gofynion ar gyfer y Lwfans Myfyrwyr Anabl. Bydd yr adroddiad hefyd yn cefnogi’ch cais am rai addasiadau rhesymol, fel cymorth a threfniadau arholi, e.e. amser ychwanegol.

Beth fydd yn digwydd os bydd angen fy nghyfeirio at weithiwr proffesiynol arall?

  • Efallai y cewch chi’ch cynghori i gysylltu â’ch meddyg i gael eich cyfeirio o dan y GIG i’ch archwilio o ran Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig neu ADHD/ADD. Ond go brin y bydd y cyflyrau hynny heb eu canfod ynghynt yn eich addysg. Cewch chi wybod rhagor am y cyflyrau hynny yma: Anhwylderau’r Sbectrwm Awstistig ac ADHD/ADD
  • Efallai y cewch chi hefyd eich cyfeirio at Optometrydd Ymddygiadol i’ch archwilio am syndrom Meares Irlen. Cewch chi wybod rhagor am syndrom Meares Irlen yma.

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiwn am y sgrinio a’r asesu ar gyfer Anawsterau Dysgu Penodol, neu os hoffech chi wneud apwyntiad, cysylltwch â ni i weld cynghorydd.