Ansawdd yr addysgu
Dysgu ac addysgu sydd wrth wraidd Prifysgol Caerdydd.
Dyma’r meysydd sy’n cael y flaenoriaeth a’r adnoddau i sicrhau addysgu o’r radd flaenaf, ac fel bo’r myfyrwyr yn astudio i sicrhau’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad gwerthfawr a fydd gyda nhw am weddill eu hoes.
Mae traddodiad cryf o waith ymchwil llwyddiannus yn rhan annatod o’r addysgu, ac mae tystiolaeth amlwg o’r llwyddiant hyn.
Dyma enghreifftiau o ragoriaeth yr addysgu:-
- Cymeradwyaeth gref gan y llywodraeth trwy gyfrwng yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd
- Adolygiadau cadarnhaol o’r rhaglenni academaidd gan safonwyr allanol
- Cyrff proffesiynol yn achredu rhaglenni astudio Caerdydd
- Rhagor o alw ymysg cyflogwyr am raddedigion Caerdydd
Ar ôl adolygu’r Brifysgol yn 2002, mynegodd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd "hyder yng ngallu’r Brifysgol i sicrhau safonau ei dyfarniadau".
Yn ddiweddarach, aeth yr asiantaeth ati i adolygu dwy o Ysgolion y brifysgol — gan fynegi hyder yn y safonau academaidd a gyflawnwyd a chanmol safon datblygiad myfyrwyr a’r adnoddau dysgu.
Yn yr un modd, cafodd rhaglenni astudio’r Ysgolion i gyd, bron, eu hadolygu a’u hail-ddilysu rhwng 2001 a 2004.
Roedd gan aseswyr allanol ddigon o hyder yn safon pob un o’r rhaglenni. Cyn y prosesau hyn, cafodd 21 o bynciau eu dyfarnu’n "Rhagorol" am safon yr addysgu yn sgîl adolygiadau annibynnol gyda chefnogaeth y llywodraeth.
Mae’r ffaith bod 42 o gyrff proffesiynol gwahanol wedi achredu rhaglenni astudio’r Brifysgol yn brawf pellach o safon dysgu ac addysgu benigamp Caerdydd.
Mae gan Brifysgol Caerdydd record gant y cant o gael achrediad proffesiynol o’r fath, sy’n aml yn golygu adolygiadau blynyddol hynod o lym - ac mae aseswyr annibynnol wedi gwneud llawer o sylwadau cadarnhaol amdani.
"Its outstanding recent teaching achievements put Cardiff on the short list for University of the year."
Sunday Times University Guide
"Cardiff is a match for most rivals in teaching and research and the overall performance is the amongst the best in Britain."
The Times Good University Guide

