Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Is-raddedigion

Yma yng Nghaerdydd, mae myfyrwyr yn elwa ar gydweithio gydag ymchwilwyr sy’n torri tir newydd yn eu meysydd arbenigol.

Mathematics undergraduate students at a seminar

Ar ddechrau’r cwrs, bydd y myfyrwyr yn cael blas ar weithgareddau ymchwil eu pwnc.

Wrth iddynt ddatblygu, byddant yn ymgymryd â gweithgareddau dysgu sy’n dod o dan ddylanwad gwaith ymchwil ac ysgolheictod staff.

Er enghraifft, efallai bod modd dilyn modiwlau mewn meysydd arbennig sy’n ymwneud â gwaith ymchwil y staff. Efallai bydd prosiectau ymchwil sydd ar waith yn destun astudiaethau achosion neu arbrofion yn y dosbarth.

Efallai y cynigir gweithgareddau dysgu sy’n datblygu ac sy’n profi technegau a sgiliau ymchwil ac ysgolheictod sy’n briodol i waith is-raddedigion — er enghraifft trwy brosiect neu draethawd.

Mae llwyddiant myfyrwyr Caerdydd yn eu maes yn brawf o fanteision defnyddio’r dulliau hyn. Yn draddodiadol, mae cyfraddau datblygu a chynnydd is-raddedigion Caerdydd yn cymharu’n ffafriol iawn â phrifysgolion blaenllaw eraill — a dyma’r gorau yng Nghymru.

Canlyniad hyn, felly, yw cymuned o is-raddedigion brwdfrydig, bywiog a chyffrous sy’n un o gryfderau mwya’r Brifysgol.

Am ragor o fanylion ynghylch y cyfleoedd i is-raddedigion yng Nghaerdydd, ewch i’r safleDarpar Fyfwyr.

Graddau

Trefn fodiwlaidd sydd i gynlluniau gradd Prifysgol Caerdydd — heblaw’r graddau meddygol a deintyddol - ac mae gan hyn lawer o fanteision posib i fyfyrwyr.

Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau o leiaf 12 modiwl ym mhob blwyddyn o’u cynllun gradd. Mae pob modiwl yn cynnwys rhaglen o hyfforddiant ac asesu.

Mae cynllun Caerdydd wedi’i lunio i roi cyfleoedd i fyfyrwyr drosglwyddo o gynlluniau astudio neu sefydliadau eraill yn ystod y flwyddyn Ysgol, ac mae’n golygu bod myfyrwyr yn cael digon o gydnabyddiaeth am waith a gwblhawyd yn llwyddiannus.

Mae pob Ysgol yn paratoi gwybodaeth am gynlluniau astudio i fyfyrwyr ar ffurf catalog o fodiwlau fel arfer. Trowch i’r Catalog am fanylion llawn.