Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Croseo

Delwedd tudalen cartref: Aled Wyn Griffiths

Mae gan Brifysgol Caerdydd rôl weithgar mewn cymunedau led led Cymru, ac ar draws y byd.

Gall y rhai sy’n ymweld â’n Pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol eleni gael gwybod rhagor am rôl Caerdydd o ran paratoi pobl ifanc a busnesau ar gyfer heriau’r dyfodol.

Darllenwch y neges croeso…


Creu dyfodol gwell

Mynd ag ymchwil Caerdydd i’r gymuned Gymreig

Bydd gan egin beirianwyr y cyfle i ddylunio ac adeiladu eu tyrbin gwynt eu hunain wrth i Brifysgol Caerdydd fynd â’i gwaith i’r gymuned yn Eisteddfod Genedlaethol 2012.

Bydd ymwelwyr yr Eisteddfod eleni, a gynhelir ym Mro Morgannwg rhwng y 4ydd a’r 11eg o Awst, yn cael rhoi cynnig ar amrywiaeth o heriau peirianyddol i blant a phobl ifanc a’r ifanc eu hysbryd, yn ogystal â chael mynd i’r afael â rhywfaint o ymchwil arloesol y Brifysgol.

Gall plant ysgol gymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol ym mhafiliwn y Brifysgol i gael gweld sut i adeiladu tyrbin gwynt. Byddant yn cael awgrymiadau a chyngor am beth sy’n gwneud tyrbin gwynt da, a rhoddir gwobrau i dyrbin gorau’r dydd.

Bydd gweithgareddau eraill yn ystod yr wythnos yn rhoi’r cyfle i blant cyn oed ysgol wneud melin wynt tra bydd eraill yn rhoi cynnig ar adeiladu pont. Bydd adeiladwyr y pontydd hiraf yn cael eu rhestru fel y sgorwyr uchaf. Bydd car rasio Fformiwla Myfyrwyr y Brifysgol yno drwy gydol yr wythnos hefyd.

Peirianneg yw thema stondin y Brifysgol yn Eisteddfod Genedlaethol 2012”, meddai Bruce Etherington, y Rheolwr Ymgysylltu â Chymunedau.

Peirianneg yw un o’r meysydd pwysicaf fydd yn helpu Cymru yn ystod y cyfnodau anodd hyn. Drwy gyflwyno gwaith y Brifysgol i blant mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol, rydyn ni’n gobeithio ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr.

Bydd y Brifysgol yn rhannu ei phafiliwn gyda Techniquest a bydd drws nesaf i’r Pafiliwn Gwyddoniaeth ar y Maes.

Bydd Ysgol Gymraeg y Brifysgol yn amlwg yn yr Eisteddfod hefyd. Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau drwy gydol yr wythnos gan gynnwys anerchiad gan Bennaeth yr Ysgol, yr Athro Sioned Davies, am gyfieithu llenyddiaeth i blant a’r Dr Simon Brooks am fewnfudwyr sy’n siarad Cymraeg.

Bydd aelodau o Ysgol y Gyfraith wrth law ddydd Iau, 9fed Awst, i roi’r cyfle i bobl gael gwybod rhagor am yr Ysgol a’r ymchwil mae’n ei gynnal. Bydd gan y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol stondin hefyd ym mhafiliwn y Brifysgol drwy gydol yr wythnos er mwyn hyrwyddo’r Ganolfan a’i gwaith.


Techniquest

TechniquestYn ogystal â’r arddangosfeydd sydd wedi eu hysbrydoli gan y Brifysgol, gall ymwelwyr hefyd roi tro ar rai o’r ffefrynnau o brif ganolfan Techniquest yn Nghaerdydd.

Gallwch ddysgu beth sy'n gwneud i awyren hedfan, dysgu mwy am sut y mae eich corff yn gweithio, neu roi prawf ar eich gallu i resymu gydag un o'r posau heriol

“Mae Techniquest wrth ei bodd i fedru cyd-weithio â Phrifysgol Caerdydd yn yr Eisteddfod eleni eto,” meddai Prif Weithredwr Techniquest Peter Trevitt.

“R’yn ni’n gobeithio y bydd yr arddangosfa’n boblogaidd ymhlith pobl o bob oed sy’n ymweld â’r Eisteddfod. Mae’r bartneriaeth sydd wedi ei chreu rhyngon ni a’r Brifysgol yn mynd o nerth i nerth.

“Mae Techniquest yn cyflwyno gwyddoniaeth mewn ffordd gyffrous ac r’yn ni’n ffodus iawn i weithio gydag ymchwilwyr o statws rhyngwladol i ddatblygu syniadau newydd i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o wyddonwyr.”

Cadwch gysylltiad gyda Phrifysgol Caerdydd

Dewch o hyd i ni ar Twitter

@prifysgolCdydd ac @cardiffuni


Map yr Eisteddfod

Gwelwch bafiliwn Prifysgol Caerdydd ar y map isod:

Map Eisteddfod 2012

Neu cliciwch ar y ddolen isod i weld PDF o fap yr Eisteddfod:

Map Eisteddfod 2012 - PDF


Oriel Lluniau

Cliciwch y ddolen isod i weld lluniau o arddangosfa Prifysgol Caerdydd yn 2011:

Eisteddfod - 2011


Dewch i wybod rhagor am sut mae Prifysgol Caerdydd yn cyfrannu at hyrwyddo gwybodaeth, diwylliant a chymuned

Cliciwch yma i ddarllen y rhifyn rhyngweithiol 2012

Llwythwch i lawr rifyn 2012 'Cyswllt' [945KB .pdf]



Canolfan Cymraeg i Oedolion

Rhagor am y cyrsiau Cymraeg sydd ar gael

The Welsh for Adults Centre website