O arbenigwyr yn rhannu eu hymchwil diweddaraf, i wyliau, gweithdai a chyfresi o gyngherddau, mae ein digwyddiadau amrywiol yn agored i bawb: myfyrwyr, staff, cyn-fyfyrwyr a'r gymuned ehangach.
Mae’r Athro Leighton Andrews wedi ysgrifennu llyfr newydd, Ministerial Leadership, sy’n seiliedig ar ymchwil i arfer gweinidogol – yn benodol dadansoddiad o’r cyfweliadau gyda chyn-weinidogion a gynhaliwyd gan Sefydliad y Llywodraeth ers 2015 ar gyfer ei archif Ministers Reflect.
Clywch gan Dr Catherine Hogan, Darlithydd a Joshua D'Ambrogio (Biowyddorau 2021-) Myfyriwr Doethuriaeth o Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd (ECSCRI) sy'n ymchwilio sut mae diet braster uchel a gordewdra (ffactorau risg) yn achosi canser pancreatig cynnar, a allai ddatgelu targedau ar gyfer therapïau yn y dyfodol.