Skip to content Skip to navigation menu
Mae gennyn ni amrywiaeth o breswylfeydd sy’n addas at ddewis a phoced yr unigolyn.Ac ar ben hynny, rydyn ni’n gwarantu lle yn eu blwyddyn gyntaf i israddedigion ac i ôl-raddedigion o wledydd tramor neu’r Undeb Ewropeaidd (sy’n cyrraedd ym mis Medi).
Oes gennych chi gynnig pendant i astudio? Gwnewch gais am le mewn preswylfeydd heddiw.
Paratowch at y diwrnod mawr drwy lawrlwytho un o’n pecynnau gwybodaeth am gyrraedd
Ddangosaf ein tabl cymharu newydd y wybodaeth hanfodol ar gipolwg.
Mae gennyn ni lety i israddedigion ar sail hunan-arlwyo neu arlwyo, ac ystafell ymolchi en-suite neu ystafell ymolchi i’w rhannu.
I ôl-raddedigion o wledydd tramor, rydyn ni’n gwarantu lle mewn preswylfa i ôl-raddedigion. Yn achos ôl-raddedigion o’r Deyrnas Unedig gallwn eich helpu i ddod o hyd i lety ar rent.
Cyfnodau preswyl, dyrannu ystafelloedd, talu, cyrraedd>
Mae nifer o breswylfeydd wedi’u haddasu’n unswydd ar gael, yn arbennig felly i fyfyrwyr sy’n defnyddio cadair olwynion a myfyrwyr â nam ar y clyw.
Mae ambell fflat wedi’i chadw i rai sy’n siarad ac yn dysgu Cymraeg ac sy’n dymuno cael eu gosod mewn grŵp gyda’i gilydd.
Mae gennyn ni letyau i barau ond yn anffodus does dim modd gwarantu lleoedd, gan mai cyfyngedig yw’r nifer sydd ar gael.
Cyfyngedig yw nifer y tai a’r fflatiau i deuluoedd, felly allwn ni ddim gwarantu lleoedd yn anffodus.
Residences are available for both short and long stays during the summer vacation.
Ewch am daith o amgylch ein preswylfeydd gydag un o’r myfyrwyr presennol, Scott.
Gwylio fideo’r daith
Rydyn ni wedi llofnodi’r Cod Ymarfer ar lety i Fyfyrwyr, sy’n amddiffyn hawliau myfyrwyr i gael llety diogel o ansawdd dda
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Canllaw hwylus sy’n gadael ichi gymharu’n preswylfeydd i gyd.
Lawrlwytho
Swyddfa PreswylfeyddPrifysgol CaerdyddBlwch Swyddfa'r Post 533Tŷ SouthgateCaerdyddCF14 3XZ
Ffôn: +44 (0)29 2087 4849 Ffacs: +44 (0)29 2087 4661E-bost: residences@caerdydd.ac.uk