Ôl-raddedigion o’r DU
Yn anffodus nid ydym yn gallu gwarantu lleoedd ym mhreswylfeydd y Brifysgol i ôl-raddedigion o’r DU. Os daw lleoedd ar gael byddwn yn cyhoeddi’r manylion ar y tudalennau hyn.
Fodd bynnag, rydym yn trefnu Digwyddiad Chwilio am Dŷ i bob myfyriwr ôl-raddedig newydd sydd am rannu llety rhent o fis Medi.
Ôl-raddedigion o dramor/UE
Cyrraedd ym mis Medi
Fel myfyriwr ôl-raddedig o Dramor/UE a fydd yn cyrraedd ym mis Medi, gwarentir lle i un person i chi ym mhreswylfeydd y Brifysgol.
Cyrraedd ar ôl mis Medi
Yn anffodus nid ydym yn gallu gwarantu lle ym mhreswylfeydd y Brifysgol i fyfyrwyr sy’n cyrraedd yn ystod y flwyddyn academaidd. Bydd yn rhaid i chi gysylltu â'r Swyddfa Preswylfeydd i weld a oes lle i gael (gweler gwaelod y dudalen).