Skip to content Skip to navigation menu
Mae’r Swyddfa Breswylfeydd yn cynhyrchu rhestri o wybodaeth sydd ar gael i'r sector preifat. Dyma wasanaeth am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ac felly nid oes gofyn i fyfyrwyr dalu ffi darganfyddwyr/gweinyddu am eiddo y daethpwyd o hyd iddynt drwy’n rhestrau. Caiff y rhestri eu diweddaru’n wythnosol, ar ddydd Gwener, ac maent ar gael drwy gydol y flwyddyn.
Os ydych yn fyfyriwr ym mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd gallwch fynd i’r Rhestri Sector Preifat drwy’r we gan ddefnyddio'ch manylion mewngofnodi a’r cyfrinair a gawsoch gan y Brifysgol.
Os ydych yn ddarpar fyfyriwr gallwch ofyn am restr drwy anfon e-bost at residences@caerdydd.ac.uk gan roi eich enw a rhif myfyriwr.
Mae’r rhestri ar gael hefyd i’w casglu oddi wrth Swyddfeydd Preswylfeydd yn Southgate House (Talybont Gogledd) neu Ganolfan Cyngor a Chynrychiolaeth Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd (gyferbyn â’r Prif Adeilad).
NID yw'r tai'n cael eu harchwilio gan y Swyddfa Preswylfeydd. Fodd bynnag, mae’n rhaid i landlordiaid gefnogi'r cynlluniau canlynol a darparu tystiolaeth o’r dogfennau cysylltiedig (os yw’n gymwys) i gael eu cynnwys ar y rhestri.
Canolfan Cefnogi Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd Yn cynnig amrywiaeth o adnoddau gyda chyngor ar wahanol opsiynau o lety yng Nghaerdydd
Canolfan Cyngor a Chynrychiolaeth Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd (ARC) Yn darparu canllawiau ar bob mater tai boed yn awgrymiadau defnyddiol wrth i chi chwilio am dŷ, cyngor ar eich hawliau a chyfrifoldebau fel tenant neu fil treth gyngor.
Cardiff Digs Yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar gael llety rhent preifat, byw allan yn y gymuned a siop un stop i faterion myfyrwyr.
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Canllaw hwylus sy’n gadael ichi gymharu’n preswylfeydd i gyd.
Lawrlwytho
Swyddfa PreswylfeyddPrifysgol CaerdyddBlwch Swyddfa'r Post 533Tŷ SouthgateCaerdyddCF14 3XZ
Ffôn: +44 (0)29 2087 4849 Ffacs: +44 (0)29 2087 4661E-bost: residences@caerdydd.ac.uk