Skip to content Skip to navigation menu
Rhan o safle Tal-y-bont, sef yr un fwyaf o breswylfeydd y Brifysgol.
Mae Llys Tal-y-bont yn rhan o safle Tal-y-bont, sef yr un fwyaf o breswylfeydd y Brifysgol ac mae’n cynnig ystod o amwynderau cymdeithasol gan gynnwys cyfleusterau rhagorol at chwaraeon. Mae’r datblygiad pwrpasol hwn yn agos i barciau eang ac mae’n daith gerdded neu daith feicio fer i’r rhan fwyaf o’r adeiladau academaidd.
Llys Tal-y-bont Tai 1-3 North Road Caerdydd CF14 3UA
+44 (0)29 2087 0267
Sylwch: canllaw yn unig yw’r amserau uchod.
2 x tŷ tair ystafell wely sydd ag un ystafell wely ddwbl, 1 ystafell wely â dau wely, un ystafell wely sengl, ystafell fyw, ystafell fwyta, cegin ac ystafell ymolchi.
Does dim pwyntiau i gysylltu â rhwydwaith Prifysgol Caerdydd yn y tai hyn. Mae deiliaid blaenorol wedi gosod llinellau telathrebu yn rhai o’r tai. Os nad yw hyn wedi’i wneud, efallai y gallwch drefnu gosod llinell eich hun. Er mwyn gwneud hynny, rhaid ichi gael caniatâd yn gyntaf gan eich Rheolwr Preswylfeydd. Sylwch mai deiliad y tai sy’n gyfrifol am yr holl daliadau am y gwaith gosod, y galwadau ac ati.
Disgwylir i bob teulu chwilio am lety arall yn y blynyddoedd wedyn gan nad oes modd ymestyn y cyfnod preswylio y tu hwnt i’r flwyddyn gyntaf.
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Canllaw hwylus sy’n gadael ichi gymharu’n preswylfeydd i gyd.
Lawrlwytho
Swyddfa PreswylfeyddPrifysgol CaerdyddBlwch Swyddfa'r Post 533Tŷ SouthgateCaerdyddCF14 3XZ
Ffôn: +44 (0)29 2087 4849 Ffacs: +44 (0)29 2087 4661E-bost: residences@caerdydd.ac.uk