Skip to content Skip to navigation menu
I’r dim ar gyfer campws Parc Cathays a Chanol y Ddinas.
Bwriwch olwg ar y cyfleusterau sydd ar gael drwy gyfrwng Golygfeydd 360°.
Mae gan y Brifysgol nifer o dai i fyfyrwyr yn ardal Cathays a’r Rhath. Mae’r rhain wedi’u lleoli yn gyfleus yn agos i gampws Parc Cathays, Undeb y Myfyrwyr a Chanol y Ddinas.
Tai/Fflatiau i Fyfyrwyr (Y Pentref) Cathays Caerdydd
+44 (0)29 2087 5709
Sylwch: canllaw yn unig yw’r amserau uchod.
Does dim pwyntiau i gysylltu â rhwydwaith Prifysgol Caerdydd yn y tai hyn. Mae deiliaid blaenorol wedi gosod llinellau telathrebu yn rhai o’r tai. Os nad yw hyn wedi’i wneud, efallai y gallwch drefnu gosod llinell eich hun. Er mwyn gwneud hynny, rhaid ichi gael caniatâd yn gyntaf gan eich Rheolwr Preswylfeydd. Sylwch mai deiliad y tai sy’n gyfrifol am yr holl daliadau am y gwaith gosod, y galwadau ac ati.
2 x fflat un ystafell wely sydd ag ystafell wely ddwbl, ystafell fyw, cegin ac ystafell ymolchi
4 x fflat dwy ystafell wely sydd ag ystafell wely ddwbl, un ystafell wely sydd â dau wely/gwelyau bync, ystafell fyw, cegin ac ystafell ymolchi
Disgwylir i bob Pâr/Teulu chwilio am lety arall yn y blynyddoedd wedyn gan nad oes modd ymestyn y cyfnod preswylio y tu hwnt i’r flwyddyn gyntaf.
This is an externally hosted beta service offered by Google.
Canllaw hwylus sy’n gadael ichi gymharu’n preswylfeydd i gyd.
Lawrlwytho
Swyddfa PreswylfeyddPrifysgol CaerdyddBlwch Swyddfa'r Post 533Tŷ SouthgateCaerdyddCF14 3XZ
Ffôn: +44 (0)29 2087 4849 Ffacs: +44 (0)29 2087 4661E-bost: residences@caerdydd.ac.uk